David Moyes
Ar ôl cyfnod o 27 mlynedd bydd Manchester United yn dechrau’r tymor pêl-droed heb Sir Alex.  Albanwr arall sef David Moyes fydd yn rheoli United yfory wrth iddyn nhw ddod i herio Abertawe ar y Liberty.

Yr oedd Moyes yn y dorf pan gurodd yr Elyrch Malmo, ac mae’n siwr fod y tîm wedi gwneud argraff dda arno y noson honno a hwythau wedi sgorio pedair gôl.

Pan ymwelodd United â’r Liberty ym mis Rhagfyr 2012 yr oeddynt ar rediad da, ond fe lwyddodd yr Elyrch i gael gêm gyfartal 1-1, ac fe fuon nhw’n anlwcus iawn yn y gêm oddi cartref pan rwydodd Rio Ferdinand i ennill y gêm 2-1.

United heb danio dan Moyes

Dechrau digon sigledig gafodd United yn y gemau paratoi ar gyfer y tymor newydd, ac nid yw Moyes wedi cael llawer o lwc wrth geisio denu chwaraewyr newydd i’r clwb.  Methiant fu ei ymgais i arwyddo Cesc Fabregas, Thiago Alcantara a Leighton Baines, ac nid yw sefyllfa Wayne Rooney yn glir ar ddechrau’r tymor.

Mae’r disgwyliadau yn y byd pêl-droed bob amser yn uchel ac wedi iddynt wneud cystal y tymor diwethaf bydd y cefnogwyr yn disgwyl dipyn o lwyddiant y tymor hwn.  Mae’r rheolwr Michael Laudrup wedi datgan y bydd yn gobeithio y bydd yr Elyrch yn gorffen yng nghanol y tabl.

Mae’r rheolwr wedi llwyddo i ddenu sawl chwaraewr newydd ac mae’r garfan yn edrych yn gryfach y tymor hwn.  Mae Alejandro Pozuelo yn edrych yn chwaraewr medrus, ac fe fydd Jonjo Shelvey am brofi bod Lerpwl wedi gwneud camgymeriad yn ei werthu.  Ar ôl sgorio goliau yn erbyn Malmo bydd Wilfried Bony yn awyddus i wneud argraff dda ar y cefnogwyr.

Os am gael unrhyw bwyntiau yfory bydd yn rhaid i’r Elyrch fod ar eu gorau wrth geisio atal streicars fel Van Persie a Danny Welbeck.  Fe fydd y gêm yfory anodd ond mae gan dîm Abertawe y gallu i gystadlu gyda’r goreuon yn ystod y tymor.

Yr ornest yn fyw ar Sky Sports am 5.30 b’nawn yfory