Marion Bartoli
Mae Marion Bartoli wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o fyd tenis yn 28 oed, llai na chwe wythnos ar ôl iddi ennill Wimbledon.

Fe wnaeth y Ffrances y cyhoeddiad ar ôl colli i Simona Halep yn yr ail rownd ym Mhencampwriaeth Agored Cincinnati.

Daeth penderfyniad Bartoli yn dilyn cyfres o anafiadau a ddioddefodd, yn arbennig yr anaf i’w echel.

‘‘Mae’n amser i mi ymddeol, amser i orffen fy ngyrfa,’’ meddai Bartoli.

‘‘Rwyf wedi cael nifer o anafiadau eisoes ers dechrau’r flwyddyn.  Rydw i wir yn teimlo fy mod wedi rhoi’r gorau ond nid yw fy nghorff yn gallu ymdopi a phopeth,’’ ychwanegodd Bartoli.

Fe wnaeth ennill ei theitl gyntaf yn broffesiynol yn Auckland (2006).  Yn 2011 fe gyrhaeddodd  y rownd cyn derfynol ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc, a chipio’r teitl yn Wimbledon eleni.