Mae bachwr y Gweilch, Scott Baldwin wedi cael cytundeb newydd gyda’r rhanbarth a fydd yn ei weld yn chwarae ar gae’r Liberty tan 2017.

Roedd yn rhaid i’r chwaraewr 25 oed aros yn amyneddgar am ei gyfle i chwarae i’r tîm, ond mae bellach  yn cael ei ystyried yn allweddol i ddyfodol y Gweilch yn ôl rheolwr gweithrediadau rygbi’r rhanbarth, Andy Lloyd.

‘‘Mae wedi bod gyda ni am amser hir ers iddo ddod i ni o Ben-y-bont ar Ogwr ychydig o flynyddoedd yn ôl.  Mae wedi gweithio’n galed iawn dros y blynyddoedd i wella’n gorfforol a’i sgiliau technegol,’’ meddai Andy Lloyd.

Fe wnaeth Baldwin orffen ei ymgyrch llwyddiannus i’r Gweilch gydag ymddangosiad cyntaf i Gymru ar eu taith i Siapan.