James Hook
Mae James Hook wedi mynegi ei rwystredigaeth am gael ei adael allan o dîm Cymru.

Er iddo chwarae’n dda ac yn gyson i’w glwb Ffrengig, Perpignan, ac wedi ennill 70 cap i Gymru, 2011 oedd y tro diwethaf i Hook ddechrau mewn gêm brawf, yn ystod Cwpan y Byd, gan chwarae dim ond 22 munud yn ystod ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ni chafodd ei ddewis i fynd ar daith y Llewod nac ychwaith y daith i Siapan.

‘‘Dwi ddim yn siŵr beth sydd angen i mi ei wneud.  Yn bersonol, rwy’n credu y galla’i gynnig rhywbeth.  Rwyf wedi bod yn ffodus i ennill 70 o gapiau dros Gymru, ond mae yna ddwy flynedd bellach ers i mi ddechrau yn y tîm,’’ meddai Hook.

‘‘Byddaf wrth fy modd i chwarae dros Gymru eto, ond bydd y penderfyniad hynny yn cael ei wneud gan y staff hyfforddi.  Mae Perpignan nôl yn y Cwpan Heineken ac ar y funud rwy’n canolbwyntio ar wneud fy ngorau wrth wynebu’r her sydd o’n blaenau fel clwb,’’ ychwanegodd Hook.