Aled Davies yn y Gemau Paralympaidd y llynedd
Ar ôl iddo ennill medal efydd ac aur yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain y llynedd, parhau  mae llwyddiannau’r taflwr pwysau Aled Davies.

Fe gipiodd Davies, 22, fedal aur ar ddiwrnod cyntaf Pencampwriaethau’r Byd yn Lyon wrth daflu’r pwys 14.71m i guro ei dafliad gorau erioed.

A ddoe fe wnaeth y gŵr o Ben-y-bont ar Ogwr gipio’r fedal aur wrth daflu’r pwysau yng Ngemau Dathlu Sainsbury’s.  Fe wnaeth Davies daflu’r pwys 14.31m i  gipio’r fedal aur.