Mae cyn wythwr y crysau duon, Rodeny So’oialo, am arwyddo i’r Gleision neu’r Scarlets.  Yn ôl adroddiadau, mae’r ddau ranbarth wedi cyflwyno cyngion ar gyfer y chwaraewr sydd wedi ennill 62 cap i Seland Newydd.

Yn enedigol o Samoa, daeth So’oialo i Seland Newydd yn fachgen ifanc a chafodd ei addysg yn Wellington lle dechreuodd chwarae yn safle’r cefnwr cyn troi i chwarae yn y rheng-ôl.

Ar hyn o bryd mae So’oialo yn chwarae i’r tîm Honda Heat yn Siapan, ond yn awyddus iawn i symud i Gymru.  Mae gan y Gleision lle sbâr yn eu cwota tramor yn dilyn ymadawiad Michael Paterson o’r rhanbarth i fynd i Sale y tymor nesaf.

Wedi i Rob McCusker fod yn chwarae yn safle’r wythwr i fois Llanelli, mae’n well ganddo bellach gwisgo’r crys rhif chwech yn safle’r blaen asgellwr; gyda’r wythwr arall Kieran Murphy yn chwarae i Brive y tymor nesaf mae yna fwlch yn safle’r wythwr i So’oialo.

Pe bai So’oialo yn arwyddo i’r naill rhanbarth, fe fydd yn dilyn yn ôl traed rhai o’r goreuon a ddaeth o Seland Newydd fel Jerry Collins, Marty Holah ac Xavier Rush.