Malky Mackay
Mae’n debyg y bydd yn rhaid i Malky Mackay gadw ffydd yn y chwaraewyr a wnaeth sicrhau dyrchafiad Caerdydd i’r Uwch Gynghrair.
Er i’r rheolwr geisio arwyddo nifer o chwaraewyr newydd i’r clwb erbyn dechrau’r tymor, y blaenwr Andreas Cornelius yw’r unig ychwanegiad arwyddocaol i’r garfan.
Yr oedd Mackay yn awyddus iawn i arwyddo Tom Ince, asgellwr 21 oed Blackpool ond er iddo fod yn trafod telerau gyda thîm y brifddinas, penderfynu aros gyda’r clwb y mae ei dad yn rheolwr arno a wnaeth Ince.
Gobaith Mackay yw y bydd chwaraewyr fel Craig Noone, Bo Kyung Kim, Peter Wittingham a Craig Bellamy yn llwyddo i chwarae yn effeithiol fel chwaraewyr ymosodol o ganol y cae.
Gyda’r capten Mark Husdon yn sicrhau bod yr amddiffyn yn gadarn mae’r rheolwr yn ymwybodol bod angen ychwanegu amddiffynwyr profiadol i gryfhau’r garfan cyn gêm gyntaf y tymor yn erbyn West Ham.
Fe wnaeth tîm Malky Mackay guro Forest Green Rovers neithiwr 4-3 gyda’r blaenwr mawr Cornelius yn sgorio un o’r goliau. Nicky Maynard, Craig Noone a Peter Wittingham sgoriodd y goliau eraill.