Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Prestatyn, Phil Merrick wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at ail gymal yr ornest yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa yn erbyn HNK Rijeka heno.
Collodd Prestatyn y cymal cyntaf o 5-0.
Mae HNK Rijeka yn cael eu hystyried yn un o brif clybiau Croatia, ac mae’n debygol mai hon fydd cyfle olaf cefnogwyr Prestatyn i weld eu tîm yn cystadlu yn Ewrop y tymor hwn.
Dywedodd: “Bydd nos Iau yn ddathliad mawr i ddiolch i’r bois am eu cyflawniad rhagorol ac yn gyfle i weld un o’r timau gorau ym myd pê-droed Croatia.”
Gorffennodd HNK Rijeka yn y trydydd safle yng nghynghrair Croatia y tymor diwethaf, ac maen nhw wedi cael dechrau da i’r tymor newydd, gyda buddugoliaeth a gêm gyfartal yn eu dwy gêm gyntaf.
Rheolwr HNK Rijeka yw Matzac Kek, oedd yn rheolwr ar Slofenia yng Nghwpan y Byd 2010, ac mae ganddyn nhw dîm sy’n werth 20 miliwn Ewro.
Ychwanegodd Phil Merrick ei fod yn falch o’i dîm a’r cefnogwyr, er gwaethaf y canlyniad siomedig yn y cymal cyntaf.
Gyda’i dafod yn ei foch, ychwanegodd: “Bydd hwn yn achlysur arbennig iawn yn hanes Clwb Pêl-droed Prestatyn – yn enwedig pan sgoriwn ni chwech!”
Mae modd prynu tocynnau o hyd o Erddi Bastion, Bar 236 a Celtic Cars.