Mae clwb Cymry Llundain wedi cytuno i ryddhau eu prif hyfforddwr, y Cymro Lyn Jones, flwyddyn cyn i’w gytundeb ddod i ben.
Dywedodd Jones wrth y clwb ei fod am symud yn ôl i Gymru er mwyn bod yn nes at ei deulu.
‘‘Mae wedi bod yn gyfnod anhygoel gyda Chymry Llundain ond yn anffodus mae’n rhaid dod a’r cyfnod i ben. Pan oeddwn yn meddwl fy mod wedi profi popeth yr oedd gan y gêm i’w chynnig, fe ddigwyddoddy Cymry Llundain,’’ meddai Jones.
Ar ôl tymor digon cythryblus fe syrthiodd y tîm o Gynghrair Aviva.
Siom, a gair o ddiolch
‘‘Yr ydym yn drist iawn o golli Lyn, ond ar ôl cynnal sawl cyfarfod gyda fe mae’n amlwg ei fod am symud yn ôl i Gymru am resymau personol. Fe fuom yn ffodus i gael rhywun o safon Lyn gyda ni yn ystod y ddau dymor diwethaf ac mae’n dyled yn drwm iddo,’’ meddai Bleddyn Phillips, Cadeirydd y clwb.
‘‘Mae yna restr fer o dri wedi ei llunio i olynu Jones ac yr ydym yn gobeithio penodi yn ystod y dyddiau nesaf,’’ ychwanegodd Phillips.