Davies ar y llwybr tarw
Bydd Jonathan Davies a Manu Tuilagi yn dechrau yn ganolwyr i dîm y Llewod yn erbyn Queensland Reds yfory.

Dri mis yn ôl yr oedd y ddau yn gwrthwynebu ei gilydd yn Stadiwm y Mileniwm wrth i Gymru falurio Lloegr yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe gafodd Davies gais yn ei gêm gyntaf dros y Llewod yn Hong Kong wrth chwarae yn y canol gyda Jamie Roberts, ei bartner yn y tîm cenedlaethol.  Yn y gêm yn erbyn Perth echdoe, cafodd Tuilagi gêm effeithiol wrth chwarae yn y canol gyda Brian O’Driscoll.

Roberts a O’Driscoll oedd y dewis cyntaf fel canolwyr ar gyfer y gemau prawf yn ystod taith 2009 felly bydd yn rhaid i Davies a Tuilagi fod ar eu gorau i ennill lle yn y tîm prawf.

‘‘Pan fyddwch yn chwarae yn erbyn Manu yr ydych yn ymwybodol o’i gryfder a gobeithio y gallaf elwa o hynny.  Mae wedi cael tymor da ac fe wnaeth ddangos ddydd Mercher pa mor gryf yw e yn y dacl,’’ meddai Jonathan Davies.

“Fe wnes chwarae dipyn fel rhif 12 pan ddechreuais rygbi, ac rwy’n siwr y bydd Manu a fi yn cyfnewid safleoedd yn ystod y gêm, ac adeiladu y bartneriaeth fydd y peth pwysicaf,’’ ychwanegodd Davies.