Bydd y ddau brawf yn erbyn Siapan yn bwysig i Gymru er mwyn darganfod beth yw cryfder y garfan bresennol wrth gofio bod pymtheg o chwaraewyr y tîm cyntaf yn teithio gyda’r Llewod. Bydd y prawf cyntaf yn Osake yfory gyda’r ail brawf yn Tokyo yr wythnos nesaf.
Cant o gapiau fydd gan y tîm sy’n dechrau i Gymru yfory o’i gymharu a thîm Siapan sydd â 293 o gapiau, sy’n dangos bod mwy o brofiad yn y tîm cartref.
Nid yw hyfforddwr dros dro Cymru yn poeni gormod am hyn ac mae wedi annog ei chwaraewyr i fynd allan a chwarae ei gêm naturiol a pheidio poeni am golli.
‘‘Mae llawer o siarad wedi bod am ddiffyg profiad yn y tîm ond mae gennym chwaraewyr ifanc uchelgeisiol sydd am roi o’i gorau ac yr ydym yn edrych ymlaen am rywbeth arbennig dydd Sadwrn,’’ meddai Robin McBryde.
‘‘Yr ydym wedi dewis chwaraewyr ifanc am safon eu chwarae, ac mae potensial yn y garfan wrth edrych ymlaen tuag y Cwpan Byd nesaf,’’ ychwanegodd McBryde.
Siapan erioed wedi curo Cymru
O dan hyfforddiant cyn-hyfforddwr y Wallabies, Eddie Jones, mae Siapan wedi ennill 10 allan o 15 gêm ers iddo ddisodli John Kirwan fel hyfforddwr yn 2012. Er hynny maen nhw’n cael pethau yn anodd ar y foment ac wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Tonga a Fiji, ond mae Jones yn credu y gall ei dîm guro Cymru, a hynny am y tro cyntaf mewn naw ymgais yn erbyn Pencampwyr y Chwe Gwlad.
‘‘Yr ydym yn credu y gallwn ennill y gêm, ond bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau. Yr ydym wedi dewis y tîm cryfaf sydd ar gael gyda rhai chwaraewyr dylanwadol yn dychwelyd, ac fe fydd yn brawf da i ni yn erbyn un o dimau gorau’r byd. Nid ydym am orfod gwneud unrhyw esgusodion,’’ meddai Eddie Jones.