Mae cadeirydd clwb pêl-droed Abertawe wedi wfftio honiadau y gallai Michael Laudrup ymddiswyddo.
Roedd yna adroddiadau ddoe y gallai’r gŵr o Ddenmarc adael y clwb oherwydd bod Huw Jenkins wedi methu sicrhau arian i arwyddo chwaraewyr newydd.
Ond mae Jenkins wedi dweud bod arian “sylweddol” ar gael i Laudrup baratoi ar gyfer y tymor nesaf yn yr Uwch Gynghrair ac yng Nghynghrair Europa.
Dywedodd hefyd nad yw’r ddau wedi ffraeo tros y mater.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, daeth i’r amlwg nad yw Jenkins a Laudrup wedi siarad â’i gilydd ers diwedd y tymor, ond fe fu ffrae hefyd rhwng Jenkins ac asiant Laudrup, Bayram Tutumlu.
Laudrup yn boblogaidd
Mae llwyddiant Laudrup yn yr Uwch Gynghrair a buddugoliaeth yr Elyrch yng Nghwpan Capital One yn golygu bod nifer o glybiau wedi dangos diddordeb yn Laudrup, gan gynnwys Paris St Germain a’i gyn-glwb, Real Madrid.
Er gwaetha’r diddordeb, mynegodd Laudrup ei ddymuniad i aros yn y Liberty am dymor arall, yn y gobaith o sicrhau arian i gryfhau’r garfan.
Ond oherwydd diffyg parodrwydd Huw Jenkins i sicrhau’r arian, mae’n ymddangos bod yr Elyrch wedi colli’r cyfle i arwyddo Pierre-Emerick Aubameyang o St Etienne ac Alvaro Negredo o Sevilla.
Ond fe ddaeth newyddion da ddoe wrth i’r Elyrch gyhoeddi y byddan nhw’n arwyddo Jose Canas yn rhad ac am ddim o Real Betis ar ddechrau’r tymor nesaf.
Cyfarfod buan
Mae disgwyl i Jenkins a Tutumlu gyfarfod yn fuan i ddatrys y trafferthion.
Dywedodd Huw Jenkins: “Dw i, y rheolwr a’n staff recriwtio i gyd yn gytûn am ansawdd y chwaraewyr yr hoffen ni eu harwyddo er mwyn ein helpu ni i aros yn gystadleuol yn Uwch Gynghrair Barclays.
“Rydyn ni’n parhau i weithio y tu ôl i’r llenni, yn breifat pryd bynnag a lle bynnag fedrwn ni, i gryfhau ein carfan.
Ychwanegodd ei siom o gael ei orfodi i wadu y bu ffrae gyda Laudrup.
“Mae’n wir nad ydw i wedi eistedd gyda’n rheolwr ers gêm ola’r tymor yn erbyn Fulham, ond y rheswm ydy ein bod ni’n dau wedi bod ar wyliau ar adegau gwahanol.
“Dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn ni wedi siarad gan fy mod i wedi cael amryw sgyrsiau gyda Michael dros y ffôn a does dim gwahaniaeth barn wedi bod am ein targedau trosglwyddo gwreiddiol.”