Sam Warburton, dros Gymru
Fe fydd Sam Warburton yn arwain y Llewod am y tro cynta’ ddydd Sadwrn, pan fyddan nhw’n wynebu’r Queensland Reds.

Mae’r Cymro wedi methu dwy gêm gyntaf y daith gan ei fod yn gwella o anaf i’w ben-glin. Bydd ei gyd-chwaraewyr Cymreig, Dan Lydiate a Toby Faletau, yn ymuno ag o yn y rheng ôl.

Bydd Sam Warburton yn gobeithio arwain y tîm i’w trydedd fuddugoliaeth o’r bron a fo fydd yr 800fed chwaraewr i’r Llewod. 

Bydd y mewnwr Ben Youngs, y propiau Gethin Jenkins a Matt Stevens, y bachwr Tom Youngs a’r ail reng Geoff Parling hefyd yn dechrau eu gêm gyntaf i’r Llewod ar y daith.

Camau ar y daith…

Dywedodd prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland: “Mae dwy gêm a dwy fuddugoliaeth yn wych, ond y ddwy gêm yna yw’r blociau adeiladu wrth i ni adeiladu tuag at y gyfres brawf.

“R’yn ni wastad wedi dweud y bydden ni’n rhoi gêm i bob chwaraewr yn y tair gêm gyntaf ac mae’r tîm hwn yn adlewyrchu hynny.”