Mae hyfforddwr dros-dro Cymru, Robin McBryde, wedi enwi ei dîm i wynebu Siapan yn Osaka ddydd Sadwrn.
Bydd asgellwr tîm dan 18 Cymru Dafydd Howells, canolwr y Gleision a thîm saith bob ochr Cymru Owen Williams, bachwr y Scarlets Emyr Phillips a’r blaenasgellwr James King o’r Gweilch yn gwneud eu hymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn Hanazono Field.
Bydd Ryan Bevington a Scott Andrews yn ymuno ac Emyr Phillips yn y rheng flaen tra bydd y capten Bradley Davies a Lou Reed yn yr ail reng.
Yn y rheng ôl bydd Andrew Coombs yn gwisgo’r rhif 6 am y tro cyntaf i Gymru gyda James King yn rhif 7 a Rob McCusker yn rhif 8.
Fe chwaraeodd Lloyd Williams a Dan Biggar ym mhob un o’r pum gem Chwe Gwlad a nhw fydd yn safleoedd y mewnwr a’r maswr.
Bydd Jonathan Spratt yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers 2009 a bydd Liam Williams wedi yn gwneud ei bedwerydd ymddangosiad i Gymru fel cefnwr.
Maeddai hyfforddwr dros dro Cymru, Robin McBryde: “Mae’r garfan wedi gweithio’n galed iawn dros yr wythnosau diwethaf ac maen nhw’n barod i fynd allan i chwarae.
“Maent nhw eisiau mynd allan yno yn awr, gwisgo’r crys a dangos beth allan nhw ei wneud.
“Mae’n gyfle gwych iddyn nhw ac maen nhw’n gwybod pa mor bwysig yw gwisgo’r crys a chynrychioli’r genedl.”
Tîm Cymru yn erbyn Siapan:
Liam Williams (Scarlets), Harry Robinson (Gleision), Owen Williams (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch), Dafydd Howells (Gweilch), Dan Biggar (Gweilch), Lloyd Williams (Blues), Ryan Bevington (Gweilch), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Bradley Davies (CAPT) (Gleision), Lou Reed (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), James King (Gweilch), Rob McCusker (Scarlets).
Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Rhys Gill (Saracens), Rhodri Jones (Scarlets), Andries Pretorius (Gleision), Dan Baker (Gweilch), Tavis Knoyle (Scarlets), Rhys Patchell (Gleision), Tom Prydie (Dreigiau).