Rhys Priestland
Ni fydd maswr y Scarlets, Rhys Priestland, yn mynd ar daith gyda Chymru i Siapan ym mis Mehefin yn dilyn anaf a gafodd nos Wener.

Roedd y Scarlets yng Ngogledd Iwerddon i chwarae gêm ail-gyfle yng nghynghrair RaboDirect PRO12 yn erbyn Ulster pan anafodd Rhys Priestland tendon yn ei goes wrth gynhesu cyn y gêm.

Mae Cymru wedi galw maswr y Gleision, Rhys Patchell, i’r garfan yn lle Priestland. Mae Patchell, sy’n 19 mlwydd oed, wedi sgorio 147 o bwyntiau mewn 22 gêm i’r Gleision y tymor hwn.

Gêm galed

Nid Priestland oedd unig chwaraewr y Scarlets a gafodd ei anafu nos Wener. Cafodd Ken Owens, Scott Williams a Liam Williams eu hanafu hefyd a byddan nhw’n cael eu monitro gan dîm meddygol y garfan genedlaethol.

Aethpwyd a’r bachwr, Ken Owens, i’r ysbyty fel rhagofal wedi iddo anafu ei wddf. Er nad yw’r anaf yn un difrifol, mae bachwr y Dreigiau, Sam Parry, wedi cael ei alw i ymarfer gyda charfan Cymru hefyd.