Man U 2–1 Abertawe

Colli fu hanes Abertawe yn erbyn Man U yn Old Trafford brynhawn Sul yng ngêm olaf ond un y tymor.

Roedd y sylw i gyd ar Man U cyn y gêm gan mai hon oedd gêm gartref olaf eu rheolwr, Alex Ferguson, ac er i’r tîm cartref reoli’r hanner cyntaf roedd yr Elyrch yn haeddu pwynt yn dilyn perfformiad gwell yn yr ail gyfnod. Ond nid felly y bu hi wrth i Rio Ferdinand ennill y gêm gyda gôl hwyr i Man U.

Cafwyd gosgordd i anrhydeddu Ferguson ar ddechrau’r gêm, ac yn yr hanner cyntaf roedd tîm yr Albanwr yn ddigon cyfforddus yn erbyn yr ymwelwyr o Gymru.

Javier Hernandez oedd y prif fygythiad heb os a bu bron iddo sgorio wedi dim ond pum munud ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.

Cafodd y chwaraewr o Fecsico hanner cyfle ddeg munud cyn yr egwyl hefyd ond tarodd ei foli ym mhell dros y trawst.

Ond fe gafodd ei gôl ychydig funudau’n ddiweddarach wedi i gic rydd Robin Van Persie adlamu’n garedig i’w lwybr oddi ar goes Ashley Williams. Llithrodd y bêl heibio i Gerhard Tremmel yn y gôl, 1-0 i Man U ar yr egwyl.

Dechreuodd yr ail hanner yn dipyn gwell i’r Elyrch ac roeddynt yn gyfartal wedi dim ond pedwar munud diolch i ail gôl ar hugain Miguel Michu o’r tymor. Daeth croesiad cywir Nathan Dyer o hyd iddo yn y cwrt gosbi a gosododd y Sbaenwr y bêl yn gelfydd gydag ochr allan ei droed heibio i’w gyd wladwr yn y gôl i Man U, David De Gea.

Dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny wrth i’r Elyrch geisio’i gorau glas i sbwylio parti’r pencampwyr.

Bu bron i Pablo Hernandez wneud hynny toc wedi’r awr, ond er iddo guro Phil Jones yn rhwydd fe ergydiodd yn syth at De Gea yn y gôl.

Er gwaethaf perfformiad da Abertawe yn yr ail gyfnod, gôl hwyr nodweddiadol gan dîm Ferguson enillodd y gêm yn y diwedd. Sgoriodd Rio Ferdinand gyda thri munud o’r naw deg ar ôl i ddechrau’r dathliadau yn Old Trafford ac i yrru’r Elyrch adref yn waglaw.

.

Man U

Tîm: De Gea, Evra, Jones, Ferdinand, Vidic, Carrick, Welbeck (Valencia 66′), Scholes (Anderson 66′), Kagawa, Hernandez (Giggs 76’), Van Persie

Goliau: Hernandez 39’, Ferdinand 87’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Taylor (Davies – 65′ ), Chico, Williams, Tiendalli, Britton, Michu (Rangel 74’), Pablo (Agustien 87’), Dyer, Routledge, De Guzman

Gôl: Michu 49’

.

Torf: 75,572