Leinster 37–19 Gweilch

Collodd y Gweilch gyfle i godi i bedwar uchaf y RaboDirect Pro12 wrth golli yn erbyn Leinster ar yr RDS yn eu gêm olaf o’r tymor.

Gan i’r Scarlets lithro yn erbyn Treviso, byddai buddugoliaeth wedi bod yn ddigon i sicrhau gêm gynderfynol i’r Gweilch, ond er iddi fod yn agos ar adegau, ennillodd y Gwyddelod yn gyfforddus yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Leinster yn gryf ac roeddynt bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen wedi 25 munud diolch i ddau gais gan yr asgellwr, Andrew Conway. Dilynodd gic Fergus McFadden i dirio’r cyntaf cyn croesi am ei ail yn dilyn bylchiad da gan y mewnwr, Luke McGrath.

Ond tarodd y Gweilch yn ôl gyda dau gais eu hunain cyn yr egwyl. Daeth y cyntaf diolch i feddwl chwim Dan Biggar yn cymryd cic gosb gyflym, a’r ail i’r canolwr, Ben John, yn dilyn symudiad da.

Methodd Biggar gyda’r ail drosiad ac ychwanegodd Sexton dri phwynt i Leinster gyda chic olaf yr hanner, 17-12 ar yr egwyl a’r Gweilch ynddi o hyd.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyntaf, gyda Leinster a Conway yn sgorio. Daeth trydydd yr asgellwr diolch i gic a chwrs hir o hanner ei hunan, ac yn dilyn trosiad a chic gosb arall gan Sexton roedd gan y tîm cartref bymtheg pwynt o fantais.

Sgoriodd Tom Isaacs yn dilyn pas hir dda Ashley Beck wyth munud o’r diwedd i greu diweddglo diddorol ond y Gwyddelod a gafodd y gair olaf gyda chic gosb gan Sexton a chais i’r eilydd brop, Cian Healy.

Mae’r canlyniad yn golygu fod y Gweilch yn gorffen y tymor yn bumed yn nhabl y Pro12. Mae Leinster ar y llaw arall yn gorffen yn ail ac yn wynebu Glasgow yn y rownd gynderfynol.

Ymateb

Capten y Gweilch, Alun Wyn Jones:

“Roedden ni’n gwybod ei bod hi am fod yn anodd ar ôl colli yn erbyn Glasgow yr wythnos diwethaf.”

“Chawsom ni ddim dechrau da iawn i’r tymor, fe wnaethom ni wella at y Nadolig, ond yna baglu ychydig eto at ddiwedd y tymor.”

.

Leinster

Ceisiau: Andrew Conway 7’, 23’, 42’, Cian Healy, 79

Trosiadau: Jonathan Sexton 8’, 25’, 43’, Ian Madigan 79’

Ciciau Cosb: Jonathon Sexton 40’, 56’, 76,

.

Gweilch

Ceisiau: Dan Biggar 31’, Ben John 37’, Tom Isaacs 72’

Trosiadau: Dan Biggar 32’, 73’