Scarlets 17–41 Treviso

Mae’r Scarlets yn rownd gynderfynol y RaboDirect Pro12 er iddynt gael cweir go iawn gartref yn erbyn Treviso yng ngêm olaf y tymor arferol nos Wener.

Cafodd y tîm cartref eu chwalu ar Barc y Scarlets ond maent yn gorffen yn y pedwerydd safle holl bwysig serch hynny gan i Leinster wneud ffafr â hwy trwy guro’r Gweilch.

Hanner Cyntaf

Rhoddodd cic gosb gynnar Owen Williams fantais gynnar i’r Scarlets ond buan iawn y tarodd Treviso’n ôl gyda chais i’r wythwr, Robert Barbieri, yn dilyn bylchiad y clo, Antonio Pavanello.

Llwyddodd Burton â’r trosiad cyn iddo yntau a Williams sgorio cic gosb yr un wrth iddi aros yn agos. Ychwanegodd Williams ddwy arall i roi’r tîm cartref ar y blaen, ond Burton a gafodd y gair olaf am yr hanner cyntaf gyda chic lwyddiannus arall i roi’r Eidalwyr bwynt ar y blaen ar yr egwyl.

Ail Hanner

Er ei bod hi’n gêm bwysicach i’r Scarlets na’r gwrthwynebwyr dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail gyfnod a Treviso oedd hwnnw.

Ychwanegdd Burton gic gosb cyn i ddau o chwaraewyr yr ymwelwyr gael eu hanfon i’r gell gosb o fewn munud i’w gilydd. Derbyniodd yr eilydd flaenasgellwr,  Valerino Bernabo, a’r prop, Jacobus Roux, gardiau melyn ond parhau i bwyso a wnaeth Treviso!

Trosodd Burton dri phwynt arall cyn i Manoa Vosawai dirio yn y gornel chwith yn dilyn chwarae agored mentrus o un pen i’r cae i’r llall gan y tri dyn ar ddeg.

Roedd gan yr Eidalwyr bedwar pwynt ar ddeg o fantais erbyn i’r ddau droseddwr ddychwelyd ond roedd mwy i ddod wrth iddynt ychwanegu dau gais arall yn y chwarter awr olaf i sicrhau pwynt bonws.

Rhedodd yr eilydd ganolwr, Luca Morisi, yn rhydd cyn sgorio ar ôl gweld dau flaenwr yn llinell amddiffynnol y Scarlets, a chroesodd Christian Loamanu yn dilyn pas dda Burton yn y munudau olaf. Cafodd Burton, sydd ar ei ffordd at y Dreigiau’r tymor nesaf, gêm dda gan orffen gydag un pwynt ar hugain.

Roedd digon o amser ar ôl am gais cysur i Liam Williams ond canlyniad a pherfformiad siomedig iawn ydoedd ar y cyfan i’r Scarlets.

Mae’r Scarlets yn ddiogel yn y rownd gynderfynol er gwaethaf y canlyniad gan i’r Gweilch golli yn Leinster, ond bydd rhaid i Fois y Sosban chwarae’n well yn Ravenhill nos Wener nesaf os am roi gêm i Ulster.

Ymateb

Nid oedd hon yn ffordd ddelfrydol i’r Scarlets orffen y tymor ar Barc y Scarlets, yn enwedig felly i’r chwaraewyr a oedd yn chwarae eu gêm gartref olaf dros y rhanbarth; George North, Andy Fenby, Owen Williams a Matthew Rees. Dyma oedd ymateb Rees wedi’r gêm:

“Roedden ni’n wael iawn heno. Roedden ni’n hyderus iawn cyn y gêm ar ôl chwarae’n dda dros yr wythnosau diwethaf, ond yn wahanol i ni, doedd gan Treviso ddim byd i chwarae amdano, a chwarae teg fe chwaraeon nhw’n dda.”

Ac ynglŷn â’i yrfa gyda’r Scarlets:

“Mae hi wedi bod yn wych. Dechrau ar Barc y Strade wrth gwrs ac mae gen i atgofion melys o’r fan honno, ond mae hwn [Parc y Scarlets] yn stadiwm gwych hefyd ac rwy’n meddwl fod y chwaraewyr wedi perfformio’n dda yma’r tymor hwn.”

.

Scarlets

Cais: Liam Williams 80’

Ciciau Cosb: Owen Williams 4’, 13’, 19’, 32’

.

Treviso

Ceisiau: Robert Barbieri 8’, Manoa Vosawai 49’, Luca Morisi 65’, Christian Loamanu 73’

Trosiadau: Kris Burton 9’, 50’, 74

Ciciau Cosb: Kris Burton 16’, 35’, 42’, 48’, 75’

Cardiau Melyn: Valerino Bernabo 44’, Jacobus Roux 45’