Yn dilyn cael ei ddewis i gynrychioli’r Llewod bydd Alex Cuthbert yn rhan o dîm y Gleision yn erbyn Ulster yn Ravenhill heno. Dyma gêm olaf y Gleision am y tymor.
Ar ôl dioddef anaf, hon fydd gêm gyntaf Cuthbert ers buddugoliaeth Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr.
Bydd Dan Fish yn dechrau fel cefnwr ar ôl gwella o’r anaf i’w ysgwydd.
Hefyd mae’r ddau chwaraewr sydd wedi eu dewis i garfan dan 20 oed Cyrmu ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Ffrainc, y maswr Rhys Patchell a’r asgellwr Harry Robinson hefyd yn dechrau’r gêm.
Mae’r wythwr Michael Paterson yn chwarae ei gêm olaf i’r Gleision cyn ymuno â’r Sale Sharks.
Yn dechrau’r gêm mae’r blaenwyr Josh Navidi, Lou Reed, Bradley Davies a Scott Andrews sydd yng ngharfan Cymru o 32 o chwaraewyr sy’n paratoi ar gyfer y daith i Siapan.
Bydd Ceri Sweeney a Tom James, a fydd yn ymuno â’r Exeter Chiefs, ar y fainc. Mae angen tri phwynt arall ar Ulster i sicrhau eu bod yn gorffen ar frig y RaboDirect Pro12. Dim ond unwaith y maen nhw wedi colli yn Ravenhill yn ystod y gystadleuaeth y tymor hwn. Mae’r Gleision wedi curo dau o ranbarthau Iwerddon y tymor hwn sef Connacht yn y rownd gyntaf a Munster yn rownd 13.
Tîm y Gleision
Olwyr – Dan Fish, Alex Cuthbert, Gavin Evans (Capten), Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Rhys Patchell a Lewis Jones.
Blaenwyr – Taufa’ao Filise, Kristian Dacey, Scott Andrews, Bradley Davies, Lou Reed, Luke Hamilton, Josh Navidi a Michael Paterson.
Eilyddion – Marc Breeze, Thomas Davies, Campese Ma’afu, Teofilo Paulo, Macauley Cook, Liam Davies, Ceri Sweeney a Tom James.