Alun Wyn Jones
Mae’r Gweilch wedi enwi tri chwaraewr fydd yn teithio gyda’r Llewod i Awstralia, ar gyfer y gêm yn erbyn Leinster heno.
Er mwyn cyrraedd y gemau ail gyfle mae’n rhaid i’r Gweilch ennill yn Nulyn a gobeithio y bydd y Scarlets yn colli gartref i Treviso.
Bydd Alun Wyn Jones, Adam Jones a Justin Tipuric yn dechrau’r gêm gyda’r Llew arall Ian Evans ar y fainc.
Bydd y mewnwr Kahn Fotuali’i yn colli’r gêm, ac os na fydd y Gweilch yn llwyddo i gyrraedd y gemau ail gyfle mae’n debyg ei fod wedi chwarae ei gêm olaf i’r rhanbarth.
Mae’r asgellwr Tom Habberfield yn dechrau’r gêm ar ôl gwella o’i anaf , ond mae’n rhaid i’r prop Ryan Bevington fodloni ar le ar y fainc. Bydd y bachwr Richard Hibbard yn colli’r gêm oherwydd anaf i’w ben-glin, ond mae disgwyl iddo fod yn iawn ar gyfer taith y Llewod.
Bydd y gêm yn fyw ar S4C heno am 7:45 y.h.
Tím y Gweilch
Olwyr – Richard Fussell; Tom Habberfield, Ashley Beck, Ben John, Ross Jones, Dan Biggar a Rhys Webb.
Blaenwyr – Duncan Jones, Scott Baldwin, Adam Jones, Alun Wyn Jones (capt), James King, Justin Tipuric, Sam Lewis a Joe Bearman.
Eilyddion – Dmitri Arhip, Ryan Bevington, Cai Griffiths, Ian Evans, Morgan Allen, Matthew Morgan, Tom Isaacs a Jonathan Spratt.