Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi y bydd yr Eidalwr Tito Tebaldi yn ymuno â nhw ar ôl iddo lofnodi cytundeb dwy flynedd efo’r tîm rygbi rhanbarthol.

Bydd y mewnwr, sydd wedi ennill 16 cap dros ei wlad, yn symud o dîm Zebre i ymuno â’i dîm newydd yn eu cartref yn Stadiwm y Liberty.

“Dwi’n teimlo’n gyffrous am y cyfle gwych hwn gyda’r Gweilch,” meddai Tebaldi sy’n 25 oed.

Roedd y cyfle i ymuno â chlwb mor llwyddiannus ddim yn gyfle a allasai ei wrthod, meddai.

“Dwi’n edrych ymlaen at sialens newydd mewn awyrgylch cystadleuol a all fy helpu i wella fel chwaraewr ac fel person, gan hefyd, dwi’n gobeithio, gyfrannu at barhad llwyddiant y Gweilch,” meddai.