Alun Wyn Jones yn y canol yn morio canu
Y clo rhyngwladol Alun Wyn Jones fydd capten y Gweilch pan fyddan nhw yn herio Munster heno.

Daeth Jones ymlaen fel eilydd i Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal y penwythnos diwethaf.

Cafodd ei ryddhau o garfan Cymru ar gyfer y gêm bwysig hon yng nghystadleuaeth y RaboDirect Pro12.

Ar hyn o bryd mae’r Gweilch yn y pedwerydd safle.  O ennill gyda phwynt bonws fe allai Munster, sydd yn y chweched safle, ddod o fewn pwynt iddyn nhw.

Mae’r canolwr rhyngwladol Ashley Beck yn dechrau’r gêm yn y canol.  Daeth Beck i’r cae fel eilydd yn erbyn Caeredin nos Wener ddiwethaf ar ôl gwella o anaf i’w bigwrn.

Bydd y gêm yn fyw ar S4C heno am 6:30 y.h.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Richard Fussell, Tom Habberfield, Jonathan Spratt, Ashley Beck, Tom Isaacs, Matthew Morgan  a Kahn Fotuali’i.

Blaenwyr – Duncan Jones, Scott Baldwin, Cai Griffiths,  Alun Wyn Jones (Capten),  Lloyd Peers, James King, Sam Lewis a Jonathan Thomas.

Eilyddion – Matthew Dwyer, Marc Thomas, Dmitri Arhip, Ian Gough, Dan Baker, Arthur Ellis/Sam Davies, Rhys Webb a Tom Grabham.