Rodney Parade
Bydd y Dreigiau yn croesawu Leinster i Rodney Parade nos yfory, gan obeithio am fuddugoliaeth arall wedi gêm agos yn erbyn Zebre ddydd Sul.

Bydd Jevon Groves yn symud o’i safle arferol yn y rheng ôl i gymryd lle’r clo Adam Jones unwaith eto, gan fod Jones yn dal i ddioddef o’r salwch a gadwodd ef allan o’r gêm ddiwethaf.

Mae’r hyfforddwr Darren Edwards hefyd wedi gwneud newidiadau yng nghanol y cae, gyda Jack Dixon a Pat Leach yn dechrau nos yfory.  Bydd Sam Parry yn dechrau yn safle’r bachwr, a Jonathan Evans fydd y mewnwr.

‘Gêm anodd iawn’

Bydd Nic Cudd, sydd newydd arwyddo cytundeb newydd gyda’r Dreigiau hefyd yn dechrau. Dywedodd: “Mae Leinster yn dîm gwych a bydd hi’n gêm anodd iawn nos Wener.  Bydd rhaid i ni roi perfformiad da iawn, a dwi’n gobeithio y gallen  ni wneud hynny.”

Bydd Leinster yn siŵr o deimlo’n hyderus wrth deithio i Rodney Parade, gan eu bod yn croesawu 5 chwaraewr yn ôl i’r tîm o garfan Iwerddon. Bydd y Gwyddelod yn obeithiol o agosáu at Glasgow sydd uwch eu pennau yn yr ail safle yn y Pro12.

Dreigiau v Leinster, 1 Mawrth, 7yh.

Dreigiau: Dan Evans, Adam Hughes, Pat Leach, Jack Dixon, Hallam Amos, Steffan Jones, Jonathan Evans; Ieuan Jones, Nic Cudd, Lewis Evans (c), Jevon Groves, Ian Nimmo, Nathan Buck, Sam Parry, Phil Price.

Eilyddion: Hugh Gustafson, Aaron Coundley, Dan Way, Rob Sidoli, Adam Jones, Wayne Evans, Tom Prydie, Will Harries.

Leinster: Luke Fitzgerald, Dave Kearney, Brendan Macken, Fergus McFadden, Fionn Carr, Ian Madigan, Eoin Reddan; Jack O’Connell, Sean Cronin, Jamie Hagan, Mark Flanagan, Devin Toner, Dominic Ryan, Shane Jennings, Rhys Ruddock.

Eilyddion: Aaron Dundon, Jack McGrath, Michael Bent, Leo Cullen, Jordi Murphy, John Cooney, Andrew Goodman, Eoin O’Malley.