Zebre 13–14 Dreigiau
Cael a chael oedd hi i’r Dreigiau yn y Stadio XXV Aprile, Parma, brynhawn Sul wrth iddynt herio’r tîm sydd ar waelod tabl y RaboDirect Pro12, Zebre.
Roedd y Cymry ar ei hôl hi o 10-3 ar hanner amser ond fe lwyddodd yr ymwelwyr i osgoi embaras gyda chais Jevon Goves a chicio Steffan Jones yn yr ail hanner.
Cyfartal oedd hi wrth i’r egwyl agosáu wedi i Jones ac Alberto Chillion gyfnewid cic gosb yr un. Ond roedd y tîm cartref ar y blaen ar hanner amser diolch i gais hwyr Matteo Pratichetti a throsiad Chillion.
Roedd gan y Dreigiau waith i’w wneud felly a doedd y ffaith i’r ddau brop, Nathan Buck a Phil Price, dreulio amser yn y gell gosb ddim yn help.
Ond gyda Zebre eu hunain lawr i bedwar dyn ar ddeg am ddeg munud fe fanteisiodd y Cymry. Trosodd Jones gic gosb i ddechrau cyn i gais Groves gau’r bwlch i un pwynt.
Yna, gyda chwarter awr i fynd fe drosodd Jones y gic gosb dyngedfennol i ennill y gêm, a bu rhaid i Zebre fodloni ar bwynt bonws yn unig.
Mae’r Dreigiau yn aros yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y fuddugoliaeth.
.
Zebre
Cais: Matteo Pratichetti 39’
Trosiad: Alberto Chillion 39’
Ciciau Cosb: Alberto Chillion 21’, 44’
Cerdyn Melyn: Alberto Benettin 55’
.
Dreigiau
Cais: Jevon Groves 61’
Ciciau Cosb: Steffan Jones 32’, 56’, 66’
Cardiau Melyn: Nathan Buck 33’ Phil Price 43’