Wolves 1–2 Caerdydd

Adferodd Caerdydd yr wyth pwynt o fantais ar frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Wolves yn Molineux brynhawn Sul.

Sgoriodd Fraizer Campbell ddwy gôl arall wrth i’r Adar Gleision ymateb yn dda i golli ganol wythnos ond mae trafferthion Wolves a’u rheolwr, Dean Saunders, yn parhau tua gwaelodion y gynghrair.

Peniodd Campbell yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl ugain munud o chwarae pan beniodd Ben Turner dafliad hir nodweddiadol Aron Gunnarsson ymlaen iddo yn y cwrt chwech.

Ac roedd hi’n ddwy hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i’r blaenwr sgorio ei bumed gôl mewn pum gêm ers ymuno â’r clwb ym mis Ionawr. Peniad oedd y gôl hon hefyd, o groesiad cywir Craig Bellamy y tro hwn.

Hannerodd Wolves y fantais dri munud yn unig yn ddiweddarach pan waldiodd Bakary Sako gic rydd trwy’r mur amddiffynnol a heibio i David Marshall yn y gôl.

A dylai’r tîm cartref fod wedi cipio pwynt yn hwyr yn y gêm hefyd yn dilyn gwaith da gan Sako ar yr asgell ond llwyddodd yr eilydd, Sylvain Ebans-Blake, i anelu dros y trawst o bum llath.

Mae’r fuddugoliaeth yn adfer wyth pwynt o fantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth. Collodd Hull yn Bolton ddydd Sadwrn felly Watford sydd bellach yn ail yn dilyn buddugoliaeth tîm Gianfranco Zola yn erbyn Derby.

.

Wolves

Tîm: Ikeme, Johnson, Robinson, Gorkss, Batth (Ebanks-Blake 46’), Doherty (Foley 78’), Henry, Sako, O’Hara, Doumbia (Doyle 46’), Sigurdarson

Gôl: Sako 70’

Cerdyn Melyn: Doherty 25’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Hudson (McNaughton 75’), Turner, Connolly, Whittingham, Cowie (Kim Bo-Kyung 80’), Conway, Gunnarsson, Campbell (Helguson 82’), Bellamy

Goliau: Campbell 20’, 67’

Cerdyn Melyn: Wittingham 55’

.

Torf: 20,930