Lloyd Williams (Llun - Cynulliad)
Mae  Gleision Caerdydd wedi llwyddo i gadw dau frawd sy’n cael eu hystyried yn sêr ar gyfer y dyfodol.

Mae mewnwr Cymru, Lloyd Williams, a’i frawd, Tom, sy’n gefnwr, wedi arwyddo cytundebau i aros gyda’r rhanbarth am dair blynedd.

Ar ôl llif o chwarawewyr o Gymru i Ffrainc, mae penderfyniad y ddau frawd yn cael ei ystyried yn gam pwysig i’r rhanbarth.

25 dan 25

Yn ôl prif hyfforddwr y Gleision, Phil Davies, fe fydd tîm y dyfodol yn cae ei adeiladu o amgylch chwaraewyr fel Lloyd Williams, 24, a helpodd Gymru i’w buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.

Mae Tom Williams, sy’n 20 oed, hefyd yn datblygu’n gyflym, meddai, gan gamu’n gynt na’r disgwyl o dîm Academi’r Gleision.

Nod y rhanbarth yw cael 25 o chwaraewyr o dan 25 oed yn eu carfan.

Mae Lloyd a Tom Williams yn feibion i gyn fewnwr Caerdydd a Chymru, Brynmor Williams.