Y gôl-geidwad Gerhard Tremmel yw’r diweddaraf o dîm pêl-droed Abertawe i arwyddo cytundeb newydd yr wythnos yma.

Mae Tremmel, sydd wedi chwarae rhan allweddol mewn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Capital One, yn dilyn Leon Britton a Garry Monk gan arwyddo cytundeb newydd heddiw.  Bydd y cytundeb yma yn ei gadw yn y Liberty am 2 flynedd a hanner.

Doedd Tremmel, 34, heb gael cyfle i ddangos ei ddoniau dan y cyn-reolwr Brendan Rodgers, ond y tymor yma, mae wedi bod yn rhoi perfformiadau da yn gyson.  Chwaraeodd mewn sawl gêm ar y ffordd i’r rownd derfynol yn y Gwpan Capital One, gan gynnwys y rownd gynderfynol yn erbyn Chelsea, gan beidio ildio gôl yn y ddau gymal.

“Ers y diwrnod cyntaf i mi ymuno a’r clwb, roeddwn i’n siŵr bod rhywbeth arbennig yn digwydd yma,” meddai’r Almaenwr.

“Rydw i wedi bod gyda sawl clwb, ond mae’r teimlad sy’n bodoli rhwng y chwaraewyr a’r staff a’r cefnogwyr yma yn wahanol.  Wrth gwrs, ges i ddim gymaint o gyfle i chwarae’r tymor diwethaf, ond mae’r tymor yma wedi bod yn hollol wahanol ar y cae.”

Ymunodd Tremmel gydag Abertawe yn 2011, ond yn ddiweddar mae wedi cael cyfle i gyfrannu i’r tîm yn dilyn anaf Michel Vorm.

“Rydw i’n cael chwarae a chyfrannu llawer mwy nawr, sydd yn wych, a pan ddaeth y cyfle i arwyddo cytundeb newydd yma roeddwn i’n hapus iawn i wneud hynny.”