Y Bala 3–6 Gap Cei Connah
Roedd pawb yn meddwl fod Gap Cei Connah wedi sicrhau lle yn hanner uchaf Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn deg dyn y Bala ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn, pawb ond yr Uwch Gynghrair ei hun hynny yw!
Roedd y ddau dîm yn cystadlu am y safle hollbwysig ar ddechrau’r gêm, a’r Bala oedd tîm gorau’r hanner cyntaf er gwaethaf cerdyn coch cynnar Connall Murtagh. Ond enillodd Cei Connah yn gyfforddus yn y diwedd diolch i bedair gôl ail hanner Mike Hayes; ac roedd angen yr holl goliau ar Gap hefyd gan i Gaerfyrddin guro’r Drenewydd i orffen yn gyfartal ar bwyntiau gyda’r Nomadiaid wrth i’r tabl hollti.
Ond yna, yn dilyn y gêm, cyhoeddodd y Gymdeithas Bêl Droed y bydd Cei Connah yn colli pwynt am chwarae chwaraewr anghymwys mewn gêm ar ddechrau’r tymor oni bai iddynt lwyddo gydag apêl yn yr wythnos nesaf. Mae hyn yn golygu mai Caerfyrddin sydd felly yn y chweched safle ar hyn o bryd.
Hanner Cyntaf
Pum munud yn unig oedd wedi mynd pan dderbyniodd Murtagh gerdyn coch am dacl beryglus ar Jamie Petrie ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Bala wedi deunaw munud pan rwydodd Ben Collins i’w rwyd ei hun.
Ond y Bala oedd y tîm gorau serch hynny ac roeddynt yn llawn haeddu dod yn gyfartal pan anelodd Lewis Codling y bêl rhwng coesau John Rushton yn dilyn pas gelfydd Lee Hunt.
Cafodd Hunt ei hunan gyfle da i roi ei dîm ar y blaen cyn i eilydd ifanc Cei Connah, Ryan Edwards, wneud hynny mewn steil. Llwyddodd i droi ei ddyn cyn canfod cefn y rhwyd o bum llath ar hugain. Dipyn o gôl a Gap ar y blaen yn erbyn llif y chwarae ar yr egwyl.
Ail Hanner
Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail hanner wrth i’r Bala flino a llwyddodd ymosodwr Gap, Mike Hayes, i sgorio pedair yn ei gêm gyntaf ers ymuno ar fenthyg o Airbus.
Curodd ei amddiffynnwr ar ochr dde’r cwrt cosbi a chrymanu’r bêl i’r gornel isaf chwith ar gyfer y gyntaf cyn canfod y gornel uchaf o ochr y cwrt cosbi ar gyfer ei ail.
Disgynnodd y bêl yn garedig i’r blaenwr yn y cwrt cosbi cyn iddo’i chodi dros Ashley Morris yn y gôl ar gyfer y drydedd ac roedd y tri phwynt yn ddiogel gydag ugain munud i fynd.
Tynnodd Hunt un yn ôl o’r smotyn wedi iddo gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Chris Rowntree ond adferodd Hayes y bedair gôl o fantais gyda’i bedwaredd a’r symlaf o’r bedair saith munud cyn y diwedd.
Roedd digon o amser ar ôl i Mark Connolly daro’r trawst gyda chic rydd i’r Bala ac i Stuart Jones benio gôl gysur i’r tîm cartref, ond prynhawn Cei Connah oedd hi.
Y Ras am y Chweched Safle
Tra yr oedd hi’n gyfartal ar Faes Tegid yn yr hanner cyntaf roedd hi’n ymddangos mai’r Drenewydd fyddai’n gorffen yn y chweched safle gan mai nhw oedd yn ennill y gêm rhyngddynt hwy a Chaerfyrddin ar Barc Waun Dew.
Ac er i’r Hen Aur daro’n ôl i ennill honno o 4-2 a gorffen hanner cyntaf y tymor yn gyfartal ar bwyntiau gyda Cei Connah roedd hi’n ymddangos bod gwahaniaeth goliau yn mynd i faglu tîm Mark Aizlewood.
Ond gyda chyhoeddiad dramatig y Gymdeithas Bêl droed ar ddiwedd y gêm, fe gododd Caerfyrddin i’r chweched safle ar draul Gap. Ac os na fydd y tîm o’r gogledd ddwyrain yn llwyddo gydag apêl, felly fydd hi’n aros.
Ymateb Cei Connah
Roedd chwaraewr reolwr Gap Cei Connah, Mark McGregor, yn gandryll wrth glywed y newyddion ar ddiwedd y gêm:
“Byth ers i mi fod yma, mae yna un peth ar ôl y llall wedi bod. Fe ga’ nhw [y Gymdeithas Bêl Droed] wneud fel y mynnon nhw. Ydy ail gymal y tymor yn mynd i ddechrau’r wythnos nesaf? Go brin! Achos mae gennym ni tan wythnos i ddydd Mawrth i apelio.”
“ Mae ganddyn nhw benderfyniadau i’w gwneud ond fe wnawn ni eu hymladd nhw’r holl ffordd.”
.
Y Bala
Tîm: Morris, Brown, Davies, S. Jones, Collins, Murtagh, Jones, Lunt, Sheridan (R. Jones 64’), Hunt, Codling (Connolly 64’)
Goliau: Codling 24’, Hunt [c.o.s.] 71’, S. Jones 90’
Cerdyn Melyn: Brown 76’
Cerdyn Coch: Murtagh 5’
.
Gap Cei Connah
Tîm: Rushton, Dobbins, McGregor, Robinson (Edwards 24’), Rowntree, Hardiker, C. Jones, R. Jones (Wynne 77’), Petrie, Evans (Breen 85’), Hayes
Goliau: Collins [g.e.h.] 18’, Edwards 41’, Hayes 48’, 63’, 70’, 83’
Cardiau Melyn: Edwards 86’, Dobbins 90’
.
Torf: 209