Prynhawn yfory fe fydd Caerdydd yn wynebu Leeds United yn Elland Road.

Mae Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth a saith pwynt yn glir o Gaerlŷr sydd yn yr ail safle, a does neb wedi curo’r Adar Gleision mewn chwe gêm.

Gyda 60 pwynt yn barod, a 18 gêm yn weddill, mae tîm Malky Mackay ar y trywydd iawn i gyrraedd yr Uwch Gynghrair. Ond mae’r rheolwr yn pwysleisio na fydd Caerdydd yn ymlacio.

Mae yna ornest fawr o’u blaenau yn Leeds, meddai.

‘‘Rwyf wrth fy modd yn mynd yno boed yn chwaraewr, hyfforddwr neu reolwr.  Mi fydd hi’n frwydr go iawn, ond dyna sut y dylai fod,’’ meddai Mackay.