Y Drenewydd 1–1 Y Seintiau Newydd

Cyfartal oedd hi rhwng y Drenewydd a’r Seintiau Newydd o flaen camerâu Sgorio ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Craig Williams y tîm cartref ar y blaen yn erbyn llif y chwarae yn yr hanner cyntaf cyn i Michael Wilde unioni’r sgôr toc cyn yr awr i ymestyn mantais ei dîm ar frig y gynghrair i wyth pwynt.

Hanner Cyntaf

Y Seintiau gafodd y gorau o’r hanner awr cyntaf ac roedd angen arbediad da iawn gan David Roberts yn y gôl i’r Drenewydd o ergyd nerthol Phil Baker i’w chadw hi’n ddi sgôr.

Ond y tîm cartref agorodd y sgorio yn erbyn llif y chwarae. Tarodd ergyd wych Nicky Ward o ugain llath yn erbyn y trawst ac ymatebodd Williams yng nghynt na neb i’w phenio heibio Paul Harrison.

Parhau i bwyso a wnaeth y Seintiau wedi hynny ond daliodd y Drenewydd eu gafael ar y gôl o fantais tan yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn gryf hefyd ond roedd Roberts yn ddigon tebol i arbed cynnig Chris Seargeant o bellter.

Daeth Ward yn agos yn y pen arall gyda chynnig o bellter eto cyn i Wilde unioni’r sgôr i’r Seintiau. Roedd cic gornel Chris Marriott i’r postyn agosaf yn un gywir a pheniad Wilde i’r gornel uchaf yn un nerthol. Un yr un gydag ychydig dros hanner awr i fynd.

Yr ymwelwyr a gafodd y cyfleoedd gorau wedi hynny hefyd ond yn Roberts, roedd gan y Drenewydd seren y gêm rhwng y pyst. Gwnaeth yn dda i arbed ymdrechion Sam Finley ac Alex Darlington a methodd yr un chwaraewyr daro’r targed gyda dau gyfle da arall.

Kieran Mills-Evans gafodd gyfle gorau’r Drenewydd ond roedd Harrison yn ddigon effro i arbed ei hanner foli.

Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi felly a dichon fod y ddau dîm yn gymharol hapus â’r canlyniad.

Ymateb

Bernard McNally, rheolwr y Drenewydd:

“Mae yna wytnwch yn perthyn i’r tîm hwn bellach ac fe ddangoson ni hynny heddiw, yn enwedig yn yr ail hanner.”

“Allwn i heb fod wedi gofyn am fwy gan y chwaraewyr heddiw a gydag ychydig o lwc efallai y gallwn gyrraedd y chwech uchaf o hyd.”

Aros yn nawfed y mae’r Drenewydd er gwaethaf y pwynt ond fe allant sleifio i’r chwech uchaf cyn i’r tabl hollti gyda buddugoliaeth dros Gaerfyrddin mewn pythefnos. Mae’r Seintiau ar y llaw arall bellach wyth pwynt yn glir ar frig y gynghrair.

.

Y Drenewydd

Tîm: Roberts, Worton, Mills-Evans, Sutton, Edmunds, Cook, Ward, Evans, Boundford, Williams (Partridge 87’), Jones

Gôl: Williams 30’

Cardiau Melyn: Evans 42’, Williams 83;

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Baker, Edwards, Marriott, Seargeant, Finley, Lampkin (Darlington 46’), Williams (Edwards 10’), James, Wilde

Gôl: Wilde 57’

Cerdyn Melyn: Baker 51’

.

Torf: 306