Macclesfield 2–1 Caerdydd

Mae Caerdydd allan o Gwpan yr FA wedi i ddwy gôl hwyr Matthew Barnes-Homer ennill y gêm i’r tîm cartref ar Moss Rose brynhawn Sadwrn.

Gwnaeth Malky Mackay un ar ddeg newid ar gyfer y gêm yn nhrydedd rownd y cwpan ond roedd hi’n ymddangos fod gôl Nat Jarvis ar ddechrau’r ail hanner yn mynd i sicrhau buddugoliaeth i’r Cymry. Ond tarodd ymosodwr Macclesfield gefn y rhwyd ddwywaith mewn tri munud tua’r diwedd i ennill y gêm i’r tîm o Uwch Gynghrair y Blue Square.

Fe roddodd yr Adar Gleision y bêl yng nghefn y rhwyd yn y munudau agoriadol ond roedd Jarvis yn camsefyll.

Macclesfield gafodd y gorau o gyfleoedd yr hanner cyntaf wedi hynny, gyda’r gorau o’r rheiny yn dod i Charlie Henry, ond llwyddodd Joe Lewis i arbed.

Dechreuodd Caerdydd wella tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf a bu rhaid i Lance Cronin fod yn effro i arbed ymdrech Ben Nugent a chrafodd cynnig Declan John y postyn.

Dechreuodd Macclesfield yr ail hanner yn gryf gydag Amari Morgan-Smith yn dod yn agos, ond yr ymwelwyr o Gymru aeth ar y blaen toc cyn yr awr. Cyfunodd John a Joe Ralls yn dda ar y chwith cyn i Jarvis droi croesiad John i gefn y rhwyd.

Ac roedd hi’n ymddangos fod yr un gôl honno yn mynd i fod yn ddigon cyn i Barnes-Homer gipio’r fuddugoliaeth yn y pum munud olaf. Rhwydodd y gyntaf yn dilyn croesiad Jack Mackreth cyn cael ei lorio gan Jarvis yn y cwrt cosbi a sgorio’r ail o’r smotyn.

Tor calon yn y cwpan i ail dîm Caerdydd felly ond buddugoliaeth haeddianol i’r tîm sy’n unfed ar ddeg yn y Gyngres yn erbyn y tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth.

.

Macclesfield

Tîm: Cronin, Brown, Braham-Barrett, Martin (Winn 66’), Mills, Murtagh, Wedgbury, Henry (Mackreth 61’), Kissock, Barnes-Homer, Morgan-Smith (Fairhurst 71’)

Goliau: Barnes-Homer 85′, [c.o.s.] 88′

Cerdyn Melyn: Murtagh 14′

.

Caerdydd

Tîm: Lewis, McNaughton (Coulson 58’), Nugent, Oshilaja, Kiss (Wharton 72’), Harris (O’Sullivan 64’), Ralls, McPhail, John, Velikonja, Jarvis

Gôl: Jarvis 57’

Cerdyn Melyn: McNaughton 54’