Casnewydd 1–1 Wrecsam
Cyfartal oedd hi rhwng y ddau dîm o Gymru yn Uwch Gynghrair y Blue Square ar Rodney Parade nos Wener, canlyniad sydd yn ddigon i godi Wrecsam i frig y tabl.
Rhoddodd Danny Wright yr ymwelwyr o’r gogledd ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond achubodd Max Porter bwynt i’r tîm cartref wedi’r egwyl.
Cafodd Casnewydd gyfle gwych i fynd ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr pan gafodd Aaron O’Connor ei lorio yn y cwrt cosbi gan Daniel Alfei, ond anelodd Andy Sandell ei gic o’r smotyn yn syth at Joslain Mayebi yn y gôl i Wrecsam.
A rhwbiwyd yr halen yn y briw i’r tîm cartref ychydig funudau’n ddiweddarach wrth i Wright roi Wrecsam ar y blaen. Torrodd yn glir yn dilyn pas Joe Clark a gwnaeth y blaenwr y gweddill.
Casnewydd a gafodd y gorau o’r cyfleoedd dros y naw deg munud a doedd fawr o syndod pan ddaethant yn gyfartal wedi deg munud o’r ail hanner. Gôl fach dda oedd hi hefyd – Porter yn canfod y gornel uchaf gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi.
Bu rhaid i Mayebi ac Alan Julian wneud sawl arbediad yn yr hanner awr olaf wrth i’r ddau dîm chwilio am y gôl fuddugol, a bu bron i Adrian Cieslewicz ei hennill hi i’r Dreigiau ond tarodd ei beniad yn erbyn y postyn.
Aros yn gyfartal wnaeth hi felly gyda’r ddau dîm yn gorfod bodloni ar bwynt. Mae’r pwynt hwnnw yn codi Wrecsam dros Grimsby i frig y tabl, tra mae Casnewydd yn aros yn drydydd.
.
Casnewydd
Tîm: Julian, James, Yakubu (Hughes 54’), Pipe, Porter, Sandell, Evans, Flynn, O’Connor, Charles (Crow 84’), Smith
Gôl: Porter 56’
Cardiau Melyn: Porter 13’, Sandell 82’
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Ashton, Alfei, Riley, Westwood, Cieslewicz (Rushton 86’), Harris (Ogleby 65’), Keates, Clarke, Hunt, Wright
Gôl: Wright 34’
Cardiau Melyn: Wright 16’ Mayebi 74’, Keates 90’
.
Torf: 3,627