Bydd tîm pêl-droed Lerpwl yn wynebu Zenit St Petersburg yn rownd  32 y Gynghrair Ewropa.  Mae’r tîm Rwsiaidd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, wedi i rai o’i gefnogwyr fynnu na ddylai unrhyw chwaraewr a chroen tywyll neu hoyw gynrychioli’r clwb ar y cae.

Bydd Newcastle yn herio FC Metalist Kharkiv o’r Wcrain, tra bod Tottenham wedi eu paru gyda Lyon o Ffrainc.  Mae Chelsea hefyd yn rhan o’r gystadleuaeth wedi iddyn nhw fethu a mynd ymlaen yng Nghynghrair y Pencampwyr.  Bydden nhw yn teithio  i Wlad Tsiec i wynebu Sparta Prague.

Rhai o’r gemau eraill sy’n dal sylw yw Bayer Leverkusen yn chwarae Benfica, tra bod pencampwyr tymor diwethaf, Atletico Madrid, yn wynebu tîm Rwsiaidd, Rubin Kazan.

Bydd pob gêm yn cael ei gynnal dros ddau gymal, gyda’r cyntaf yn cael ei chwarae ar y 14eg o Chwefror, a’r ail gymal wythnos wedyn.

BATE Borisov v Fenerbahce

Inter Milan v Cluj

Levante v Olympiakos

Zenit St Petersburg v Lerpwl

Dynamo Kiev v FC Bordeaux

Bayer Leverkusen v Benfica

Newcastle v FC Metalist Kharkiv

Stuttgart v Genk

Atletico Madrid v Rubin Kazan

Ajax v Steaua Bucharest

FC Basel v Dnipro

Anzhi Makhachkala v Hannover

Sparta Prague v Chelsea

Borussia Monchengladbach v Lazio

Tottenham v Lyon

Napoli v Plzen