Caerdydd 1–0 Sheffield Wednesday

Roedd gôl Craig Conway ddeg munud o’r diwedd yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Sheffield Wednesday yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sul.

Mae tîm Malky Mackay bellach wedi ennill eu deg gêm gartref gyntaf yn y gynghrair y tymor hwn. Wyneb cyfarwydd Dave Jones oedd yng ngofal yr ymwelwyr ond allai cyn reolwr yr Adar Gleision ddim eu hatal rhag ennill eto ac aros ar frig y Bencampwriaeth.

Caerdydd oedd y tîm gorau o dipyn yn yr hanner cyntaf ond ychydig iawn o gyfleoedd clir a grëwyd. Jordon Mutch ddaeth agosaf i’r tîm cartref hanner ffordd trwy’r hanner ond llwyddodd Chris Kirkland i’w atal.

Parhau i reoli a wnaeth Caerdydd wedi’r egwyl ond gwastraffodd Heidar Helguson gyfle da i roi ei dîm ar y blaen. A phan dynnwyd Helguson oddi ar y cae, fe fethodd ei eilydd, Rudy Gestede, gyfle da gyda’i ben hefyd.

Daeth y gôl o’r diwedd ddeg munud o’r diwedd pan ddaeth Joe Mason o hyd i Conway ar ochr y cwrt cosbi. Ergydiodd yr Albanwr i’r gornel isaf i gipio’r tri phwynt i’w dîm gyda’i gôl gyntaf o’r tymor.

Mae’r tri phwynt hwnnw yn codi Caerdydd yn ôl i frig tabl y Bencampwriaeth wrth i rediad cartref anhygoel y tîm barhau.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Hudson, Turner, Connolly, Whittingham, Conway, Kim Bo-Kyung (Mason – 60’), Mutch (Gunnarsson 79’), Helguson (Gestede 70’), Bellamy

Gôl: Conway 80’

Cerdyn Melyn: Mutch 49’

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Kirkland, Buxton, Taylor, Llera, Antonio, Lines, Mayor (Johnson 64’), Helan, Prutton, O’Grady (Rodri 86’), Sidibe (Madine 33’)

Cardiau Melyn: Pritton 48’, Helan 59’, Taylor 73’

.

Torf: 22,034