Bangor 0–1 Y Seintiau Newydd

Y Seintiau aeth â hi yng ngêm fyw Sgorio yn Nantporth nos Sadwrn. Sgoriodd Chris Jones i roi mantais gynnar i’r ymwelwyr ac er i Fangor reoli gweddill y gêm, fe ddaliodd y Seintiau eu gafael ar y tri phwynt.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Seintiau yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi llai na chwarter awr diolch i gôl daclus Chris Jones. Cic hir obeithiol oedd y bêl iddo gan Paul Harrison ond gwnaeth yr asgellwr gyfle iddo’i hun cyn ergydio’n gywir ac yn gadarn i’r gornel isaf.

Daeth y Dinasyddion i’r gêm wedi hynny a chafodd Chris Simm gyfle da wedi hanner awr a daeth James Brewerton yn agos o’r gic gornel ganlynol hefyd.

Simm oedd chwaraewr mwyaf bywiog Bangor yn yr hanner cyntaf a bu bron iddo unioni’r sgôr gyda chwip o ergyd o bellter bum munud cyn yr egwyl ond gwnaeth Harrison arbediad llawn cystal.

Ychydig o gyffro a gafwyd yn y pen arall mewn gwirionedd ond bu ond y dim i Jones ail adrodd ei gamp gynharach gyda rhediad ac ergyd debyg yn eiliadau olaf yr hanner ond heibio’r postyn aeth hi y tro hwn.

Ail Hanner

Bangor a ddechreuodd yr ail hanner orau hefyd ac roedd croesiadau da i’r cwrt cosbi yn fygythiad cyson i amddiffyn y Seintiau.

Un o’r croesiadau hynny achosodd ddigwyddiad mwyaf dadleuol y gêm ar yr awr. Roedd chwaraewyr y tîm cartref yn grediniol fod peniad Les Davies wedi croesi’r llinell cyn i Chris Seargeant ei chlirio ond wnaeth y dyfarnwr na’i gynorthwy-ydd ddim ei chaniatáu hi.

Roedd pawb mewn glas yn gandryll a derbyniodd Sion Edwards gerdyn melyn am gwyno.

Daeth Damian Allen yn agos funudau’n ddiweddarach gyda pheniad o groesiad Liam Brownhill ond dros y trawst aeth hi.

Roedd hi’n frwydr galed iawn trwy gydol y naw deg munud ac roedd eilydd y Seintiau, Ryan Fraughan, braidd yn ffodus i aros ar y cae yn dilyn tacl annifyr ar Chris Jones yn y munudau olaf.

Cafodd Chris Hoy hanner cyfle i Fangor yn yr amser a ganiateir am anafiadau ond allan am gic gornel aeth hi.

A phan lwyddodd Bangor i roi’r bêl yn y rhwyd o’r diwedd wedi 97 munud fe gododd y lluman ar yr asgell dde wrth i’r dyfarnwr cynorthwyol siomi’r Dinasyddion eto, er nad oedd amheuaeth am y penderfyniad y tro hwn.

Mae Bangor yn aros ar frig y tabl  er gwaethaf y canlyniad ac mae’r Seintiau yn codi i’r ail safle gyda dim ond gwahaniaeth goliau’n gwahanu’r ddau dîm

Ymateb

Rheolwr Bangor, Nev Powell:

“Ni oedd y tîm gorau, fe wnaethom ni bopeth heblaw sgorio. Fe allwn ni ddweud na chawsom ni lawer o lwc gyda’r penderfyniadau ond mae hynny’n digwydd yn y gynghrair hon.”

“Mae’n well gen i edrych ar ein perfformiad ni heddiw. Fe herio’n ni dîm llawn amser a llwyr reoli’r gêm am wyth deg munud.”

.

Bangor

Tîm: Idzi, Brownhill, Brewerton, Johnston (Morley 86’), Jones (Hoy 86’), Allen, R. Edwards, Simm, Davies, S. Edwards (Smyth)

Cardiau Melyn: Simm 28’, Edwards 59’

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Baker, Evans (k. Edwards 80’), Seargeant, A. Edwards, Finley, Draper (Wilde 63’), Darlington (Fraughan 75’), Jones

Gôl: Jones 13’

Cardiau Melyn: Fraughan 85’, Finley 90’

.

Torf: 737