Mark Jones
Mae clwb pêl-droed Port Talbot wedi dod â chytundeb y rheolwr Mark Jones i ben.

Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr eisiau “mynd â’r clwb i gyfeiriad newydd” meddai datganiad gan y clwb, ac yn diolch i Mark Jones am ei wasanaeth.

Yn y cyfamser bydd aelod o’r tîm hyfforddi, Scott Young, yn cymryd rheolaeth o’r tîm ddydd Sadwrn yn erbyn Prestatyn tra bod y clwb yn ystyried penodi olynydd parhaol i Mark Jones.

Mae Port Talbot yn seithfed yn y gynghrair ac mae Mark Jones wedi mynegi ei syndod ei fod wedi cael y sac o ystyried mai Port Talbot sydd yn y safle uchaf o blith clybiau de Cymru.

Roedd Mark Jones wedi bod yn rheoli Port Talbot ers tair blynedd, ac ar ei ail gyfnod gyda’r clwb ar ôl bod yn rheolwr arnyn nhw rhwng 2001 a 2004.

Rhwng y ddau gyfnod bu’n rheoli clwb Caerfyrddin.