Aaron Ramsey
Caerdydd 2 Leicester City 0

Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud fod ei dîm yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth yn erbyn Leicester City yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe sgoriodd Michael Chopra ac Aaron Ramsey y goliau i sicrhau’r pwyntiau llawn i’r Adar Glas i’w codi i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth a churo tîm a oedd wedi bod yn codi’n gyflym yn y tabl ac ar rediad diguro.

“Roedden ni’n haeddu’r fuddugoliaeth o’r funud gyntaf. Roedd y chwaraewyr wedi gwneud gwaith da i atal Leicester rhag defnyddio eu dyn ychwanegol yng nghanol y cae,” meddai Dave Jones.

“Roedden ni’n gallu’u cadw nhw allan. Fe gawson nhw lawer o’r bêl ond doedden nhw ddim yn gallu gwneud dim byd â’u meddiant.

“Roedden ni’n haeddu’r fuddugoliaeth ar ôl pasio’r bêl yn dda, cadw meddiant a’u hatal nhw rhag chwarae.”

Mae’r fuddugoliaeth tros y tîm o Gaerlŷr yn golygu bod Caerdydd bellach yn drydydd, un pwynt y tu ôl i Abertawe.

Yn bwysicach, mae Caerdydd wedi agor bwlch o saith pwynt rhyngddyn nhw a Leicester City sydd yn y seithfed lle, y tu allan i’r safleoedd ar gyfer dyrchafiad awtomatig.

Eisiau cadw Ramsey

Fe ddaeth y gôl gyntaf i Gaerdydd gan Chopra wedi ugain munud, ar ôl iddo daro’r bêl i gefn y rhwyd oddi ar groesiad gan Jay Emmanuel-Thomas.

Fe gafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau pan sgoriodd Ramsey ei gôl gyntaf ers dychwelyd i chwarae ar ôl torri ei goes llynedd, gydag ergyd o bymtheg  llath.

Mae rheolwr Caerdydd yn gobeithio cadw’r Cymro o Arsenal am fwy na’r cytundeb benthyg gwreiddiol o fis er mwyn helpu’r Adar Glas i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

“Roedd Aaron wedi blino ychydig erbyn diwedd y gêm,” meddai Dave Jones. “Mae ganddo beth ffordd i fynd cyn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair. Ond mae’n chwaraewr da ar gyfer ein lefel ni.

“Mae angen iddo chwarae mwy o gemau ac rwy’n gobeithio y bydd Arsenal yn cytuno.”