Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi gwerthu dros 20,000 o docynnau ar gyfer yr ornest heno yn Stadiwm Dinas Caerdydd, pan fydd Cymru yn herio’r Alban.

Mae’n gêm fawr ar sawl achlysur, ac yn wir, bydd buddugoliaeth heno yn gysur i nifer boed yn chwarewr, rheolwr ac yn gefnogwr.

Meddai Ian Gwyn Hughes o’r Gymdeithas Bêl-droed Cymru: ‘‘Mae’r sesiynau ymarfer wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae ysbryd da yn y garfan.  Mae’r bechgyn yn benderfynol o berfformio’n dda heno, ar gyfer y rheolwr a’r cefnogwyr.’’