Record gymysg sydd gan Gaerdydd wrth iddyn nhw groesawu Leeds United i’r brifddinas yfory.
Yn eu pum gornest ddiweddara’ mae’r Dreigiau wedi llwyddo i gipio dwy fuddugoliaeth, colli dwy a chael un gêm gyfartal.
Gallai Craig Bellamy a Ben Turner wella mewn pryd er mwyn herio tîm Neil Warnock. Hefyd mae yna bosibiliad y gallai Jordan Mutch ddychwelyd wedi iddo anafu ei goes, gyda chyfle i Kim Bo-Kyung wneud ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd.
Mae Craig Bellamy wedi ymarfer gyda’r garfan ac yn barod i chwarae, ond mae’n debyg y bydd yn rhaid iddo eistedd ar y fainc.
Ar y funud mae Caerdydd yn gorwedd ychydig tu allan i’r safleoedd gemau ail-gyfle, yn yr wythfed safle, ac wedi cipio saith pwynt cyn belled.
Cyfartal yr oedd hi’r tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd yn Stadiwm Caerdydd ym mis Ebrill, gyda’r sgôr terfynol yn 1-1.