Ben Davies a Laudrup (Llun: gwefan Abertawe)
Mae’r cefnwr Ben Davies yn gobeithio dechrau gêm dros Abertawe am y tro cyntaf heno yn erbyn Barnsley yng Nghwpan Capital One.

Daeth y cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera i’r cae yn eilydd ym muddugoliaeth Abertawe dros West Ham ddydd Sadwrn, a byddai dechrau i’r tim cyntaf yn “freuddwyd” meddai.

“Rwy wastad wedi dilyn y Swans ac mae fy nheulu cyfan yn gefnogwyr,” meddai’r cefnwr 19 oed.

“Rwy wedi bod gydag Abertawe ers ‘mod i’n wyth oed ac mae chwarae i’r tîm cyntaf yn gwireddu breuddwyd i fi.”

Mae Davies newydd arwyddo cytundeb dwy flynedd gydag Abertawe ac yn cystadlu gyda’r enwau sefydlog Neil Taylor ac Angel Rangel am le yn y cefn, ynghyd â Jazz Richards a Curtis Obeng

“Os dwi’n ddiog yna fe gaf i fy nal allan,” meddai Davies.

“Rwy wedi gweithio’n galed a dwi’n credu bod hynny’n cael ei ddangos yn fy ngwelliant eleni.”

Scott Sinclair: Cadeirydd yn beirniadu Man City

Mae ansicrwydd o hyd am ddyfodol Scott Sinclair yng nghrys gwyn Abertawe, ac mae Cadeirydd yr Elyrch wedi beirniadu Manchester City am y modd maen nhw wedi mynd ar ôl yr ymosodwr.

“Mae’r peth wedi llusgo ymlaen ers sbel nawr a basen i wedi meddwl os oedden nhw wir eisiau Scott yna fe fydden nhw wedi delio â’r mater yn well, ond dyna’u busnes nhw,” meddai Huw Jenkins.

Mae’r ffenest drosglwyddo yn cau ddydd Gwener.