Michael Chopra - foli yn yr hanner cynta'
Caerdydd 1 Burnley 1

Roedd rheolwr Caerdydd yn mynnu eu bod wedi ennill pwynt yn hytrach na cholli dau wrth gael gêm gyfartal gyda Burnley.

Cyn-chwaraewr yr Adar Glas, Steven Thompson, a gafodd y gôl i ddod â’r Saeson yn gyfartal gyda dim ond saith munud ar ôl.

Roedd Dave Jones yn flin gyda honno ac yn dweud y dylai Caerdydd fod wedi gwneud mwy i sicrhau’r fuddugoliaeth ymhell cyn hynny.

Roedd Michael Chopra wedi rhoi Caerdydd ar y blaen yn yr hanner cynta’, gan gymryd croes gan Jay Bothroyd ar ei frest a tharo foli i’r rhwyd.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd bum pwynt y tu ôl i QPR ar y brig, un pwynt o flaen Norwich City sy’n drydydd, a dau o flaen Abertawe a Nottingham Forest. Ond mae Forest wedi chwarae dwy gêm yn llai.

Ildio gôl wael

Fe ddaeth gôl Burnley o beniad ar y postyn agosa’ o gic gornel ac roedd Dave Jones yn mynnu na ddylai’r un tîm ildio gôl o’r fath.

“Mae’n bwynt wedi ei ennill, achos mae’n ein symud ni’n nes at y brig,” meddai wedyn. “Ond mi ddylen ni fod wedi gallu dal ein tir.

“Ond mae’n debyg y dylen ni fod wedi mynd ar y blaen ynghynt nag y gwnaethon ni efo’r cyfleoedd a gawson ni yn yr hanner cynta’.”