Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi galw chwaraewr Lerpwl Charlie Adam yn “llwfrgi” ar ôl tacl wael yn ystod y gêm rhwng Tottenham a Lerpwl yn yr Unol Daleithiau.

Dyma’r ail dro i Charlie Adam roi Bale ar ffyn baglau. Ym mis Mai 2011 methodd Bale â chwarae am dri mis ar ôl tacl wael gan yr Albanwr, pan oedd hwnnw’n chwarae dros Blackpool.

“Mae e’n dipyn o lwfrgi,” meddai Gareth Bale. “Mae’n rhyw fath o glod pan mae chwaraewyr yn ceisio eich cymryd chi mas mewn gêm ond pan mae’n bygwth eich gyrfa chi mae’n fwy difrifol.

“Mae Adam wedi dod ata i ddwywaith – ac mae e wedi fy nghael i ddwywaith.

“Pan mae rhywun yn gwneud tacl wael rydych chi’n disgwyl ymddiheuriad. Ond dwi ddim wedi cael ymddiheuriad, a dwi ddim am dderbyn un chwaith,” meddai’r gŵr o Gaerdydd.

Mae’n debygol bydd Gareth Bale a Charlie Adam yn cwrdd eto yng Nghaerdydd ar 12 Hydref pan fydd Cymru’n chwarae’r Alban mewn gêm fawr yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.