Fe fydd Michael Laudrup yn cynnal ei gynhadledd i’r wasg gyntaf heddiw fel rheolwr Abertawe.

Mae’r cyn-chwaraewr gyda Real Madrid, Barcelona a Denmarc yn olynu rheolwr newydd Lerpwl Brendan Rodgers.

“Mae’n brofiad newydd i mi, ac rwy’n edrych ymlaen,’’ meddai Michael Laudrup.

‘‘Mae pawb yn gwybod am y fath o steil chwarae sydd gan Abertawe, ac mae’n gweddu fy ffordd i o feddwl,’’ ychwanegodd.

Yn ôl Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins mae gan Laudrup “ddarlun clir” o anghenion y clwb a’i dyheadau wrth iddyn nhw geisio anelu i adeiladu ar lwyddiant y tymor diwethaf.

‘‘Rwy’n hyderus y bydd Michael yn profi i fod yn dda wrth y llyw fel rheolwr a bydd yn help i gadw’r clwb i symud ymlaen,’’ meddai Huw Jenkins.

Nid oes amheuaeth ynghylch ei statws fel un o’r goreuon ym myd pêl-droed.  Ond dwi hefyd yn gweld y rhinweddau sydd ganddo fel rheolwr,’’ ychwanegodd Jenkins.