Cledan Davies yn herio Aberystwyth y tymor diwethaf (llun o wefan CPD Tref Aberystwyth)
Mae Aberystwyth wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi ail arwyddo Cledan Davies o Gaerfyrddin.

Dechreuodd y chwaraewr ifanc ei yrfa gyda Tregaron Turfs yng Nghynghrair Cambrian Tyres Aberystwyth, ond yn fuan iawn daeth i sylw cyn reolwr Aberystwyth Brian Coyne.

Cafodd y chwaraewr ochr chwith dymor cyntaf addawol yn Aber yn 2009/10 gan chwarae rhan yn 24 o gemau’r tîm cyntaf gan sgorio unwaith.

Er hynny, symudodd ar fenthyg i’r Benrhyn-coch y tymor canlynol, ond cafodd anaf difrifol yn fuan a methu’r rhan fwyaf o’r tymor.

Symudodd Davies i Gaerfyrddin llynedd a dechrau 28 o gemau, y rhan fwyaf yn safle anghyfarwydd y cefnwr chwith.

Haf prysur

Roedd awgrym ers peth amser bod Tomi Morgan yn awyddus i Davies ddod nôl i chwarae ar Goedlen y Parc, a bydd y cadarnhad heddiw’n siŵr o fod wrth fodd y cefnogwyr lleol.

“Mae’r clwb yn falch i allu ychwanegu chwaraewr lleol talentog arall i’r garfan” meddai’r cyhoeddiad ar wefan swyddogol y clwb.

Mae Tomi Morgan eisoes wedi arwyddo’r amddiffynnwr o Aberystwyth, Stuart Jones, yn ogystal â’r cyn chwaraewr Gavin Cadwallader i’r garfan ers diwedd y tymor.

Daeth i’r amlwg yr wythnos diwethaf ei fod hefyd wedi ychwanegu enw Adan Worton o Airbus ar y rhestr o wynebau newydd ar Goedlen y Parc.