Mark Jones (llun o wefan y gynghrair)
Cafodd capten Y Bala, Mark Jones, ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru yn noson wobrwyo’r Gynghrair nos Sadwrn.

Roedd yn bleidlais agos rhwng y tri oedd ar y rhestr fer, gyda Les Davies o Ddinas Bangor yn ail a phrif sgoriwr y Seintiau Newydd, Greg Draper yn drydydd.

Roedd Jones, gynt o Wrecsam, yn chwaraewr allweddol yng nghanol cae Y Bala wrth iddyn nhw fod ond y dim i gipio lle yn Ewrop y tymor nesaf.

Enillydd teitl Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn oedd Kai Edwards o Gastell Nedd, sydd wedi cael tymor cyson iawn.

Rheolwr Y Seintiau Newydd, Carl Darlington oedd Rheolwr y Flwyddyn wedi i’w dîm gipio’r gynghrair o ddwylo Bangor.