Derwyddon Cefn 0-2 Y Seintiau Newydd
Roedd y Seintiau Newydd yn rhy gryf i Derwyddon Cefn yn rownd derfynol Cwpan Cymru brynhawn Sadwrn. Ychwanegodd y Seintiau dlws y Cwpan at yr Uwch Gynghrair yr oeddynt eisoes wedi ei hennill y tymor hwn gyda buddugoliaeth o 2-0 o flaen camerâu Sgorio yn Nantporth, Bangor.
Rhoddodd goliau cynnar Greg Draper ac Alex Darlington fantais i’r Seintiau ar yr egwyl ac er i’r Derwyddon wella yn yr ail hanner fe wnaeth y tîm o’r Uwch Gynghrair ddigon i gipio’r dwbl.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Seintiau ar dân ac roedd y Derwyddon yn ei chael hi’n anodd ymdopi â symudiadau slic y Seintiau.
Bu bron i Draper agor y sgorio ar ôl naw munud yn dilyn un o’r symudiadau hynny ond gwnaeth Chris Mullock yn y gôl i’r Derwyddon arbediad da iawn.
Gwnaeth Mullock arbediad gwell fyth funud yn ddiweddarach pan ergydiodd Ryan Fraughan o 25 llath. Roedd yr ergyd yn crymanu i’r gornel uchaf ond gwyrodd Mullock hi yn erbyn y postyn.
Ond yn dilyn dau arbediad gwych roedd gôl-geidwad ifanc y Derwyddon ar fai pan roddodd Draper y Seintiau ar y blaen wedi 13 munud. Cafodd y blaenwr beniad hollol rydd wrth y postyn pellaf o gic rydd Fraughan a llithrodd ei ymdrech trwy ddwylo Mullock wrth y postyn agosaf.
Dyblwyd y fantais funud yn ddiweddarach ac roedd Mullock yn ei chanol hi eto. Gwnaeth yn dda i atal ergyd Fraughan o bellter ond yn syth i lwybr Alex Darlington aeth hi a rhwydodd yntau i’w gwneud hi’n 2-0 wedi chwarter awr.
Bu bron i Darlington a Fraughan ychwanegu trydedd yn fuan wedyn gydag ymdrechion o bellter ond llwyddodd Mullock i gael y gorau arnynt.
Dechreuodd y Derwyddon setlo o’r diwedd hanner ffordd trwy’r hanner a daeth eu cyfle cyntaf i Andrew Swarbrick wedi 26 munud ond roedd Paul Harrison yn y gôl i’r Seintiau yn ddigon effro.
Ceisiodd Joe Price ei lwc o bellter hefyd bum munud cyn yr egwyl ond arbedodd Harrison yn gyfforddus unwaith eto.
Yn y pen arall fe wnaeth Mullock yn dda i atal gôl i’w rwyd ei hun gan un o’i amddiffynnwyr wrth iddi aros yn 2-0 ar yr egwyl.
Ail Hanner
Dechreuodd y Derwyddon yr ail hanner yn dda iawn a chafodd Swarbrick gyfle da yn yr eiliadau agoriadol ond tarodd ei foli yn wyllt dros y trawst.
Gwnaeth ei gyd chwaraewr, Price, yn well bum munud yn ddiweddarach wedi i Tony Cann sodli’r bêl i’w lwybr. Llwyddodd i daro’r targed ond roedd Harrison yn ddigon tebol i’w harbed.
Yn y pen arall fe gafodd Chris Jones gyfle gwych yn y cwrt chwech yn dilyn croesiad peryglus Fraughan ond llwyddodd Mullock i’w hatal â’i ben. Yna daeth Draper yn agos wedi 74 munud ond cafodd ei sodliad slei ei atal ar y llinell gan yr amddiffynnwr, Mark Harris.
Cafodd Chris Seargeant gyfle da tuag at y diwedd yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a Darlington ond roedd ei ergyd yn wan ac arbedodd Mullock yn gyfforddus.
Cyfunodd Darlinton a Seargeant yn gelfydd unwaith eto i greu cyfle i Seargeant yn yr eiliadau olaf ond llwyddodd Mullock i’w atal unwaith eto.
Ond roedd y Seintiau wedi gwneud hen ddigon i ennill y gêm ac er gwaethaf ymdrech lew’r Derwyddon yn yr ail hanner roedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn enillwyr haeddianol.
Ymateb
Roedd Cyfarwyddwr Pêl Droed Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, yn hapus iawn gyda’i dîm ei hun ar ddiwedd y gêm ond yn canu clodydd y gwrthwynebwyr hefyd:
“Perfformiad da heddiw, perfformiad proffesiynol ond rhaid dweud fod Derwyddon Cefn wedi chwarae’n dda iawn. Roedd hi’n hawdd gweld sut y curon nhw dri thîm o’r Uwch Gynghrair ar y ffordd.”
Roedd Rheolwr y Derwyddon, Huw Griffiths, yn falch iawn o ymdrech ei chwaraewyr ond braidd yn siomedig na chawsant eu haeddiant yn yr ail hanner:
“Mae’r bechgyn wedi bod yn wych heddiw. Yn bersonol, dwi ychydig bach yn siomedig â’r ail hanner yna achos ni wnaeth greu’r cyfleoedd gorau. Oedden ni jyst eisiau sgorio un gôl, dyna oedd y peth pwysig, ond yn anffodus wnaethon ni ddim mo hynny ond pob clod i’r Seintiau.”