Wealdstone 0-0 Casnewydd

Mae Casnewydd ar y ffordd i Wembley ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Wealdstone yn Stadiwm St Georges brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm o Gymru ar y blaen o 3-1 ers y cymal cyntaf ar Barc Sbytu yr wythnos ddiwethaf ac roedd y canlyniad cyfartal yn Llundain heddiw yn hen ddigon i dîm Justin Edinburgh.

Teithiodd tua 700 o gefnogwyr Casnewydd i’r gêm ac er na chawsant wledd o goliau go brin eu bod yn poeni’n ormodol gan y gallant yn awr ddechrau trefnu taith arall i Lundain ar gyfer y rownd derfynol.

Caer Efrog fydd eu gwrthwynebwyr yn y gêm honno wedi iddynt guro Luton dros ddau gymal gyda gêm gyfartal heddiw.

Efallai bod Casnewydd wedi bod yn byw yng nghysgod timau eraill o Gymru’r tymor hwn gan fod Abertawe, Caerdydd a Wrecsam wedi bod yn gwneud gystal. Ond er nad yw Casnewydd yn gwneud yn wych yn y Gyngres efallai mai nhw fydd yr unig dîm o Gymru i ennill rhywbeth dros y ffin wedi’r cwbl.