Owain Schiavone sy’n crynhoi ymddiswyddiad diweddar Raymond Verheijen fel is-reolwr tîm Pêl-droed Cymru.
Felly, wedi wythnosau o ddyfalu ac awgrymiadau amwys ar Twitter, o’r diwedd mae Raymond Verheijen wedi ymddiswyddo fel is-reolwr ar dîm pêl-droed Cymru.
Ers angladd Gary Speed, dyw’r hyfforddwr o’r Iseldiroedd wedi gwneud dim ond corddi’r dyfroedd gan ddefnyddio Twitter fel cyfrwng i wneud hynny. Cwta ddeuddydd wedi’r angladd fe awgrymodd Verheijen ar Twitter ei fod eisiau camu i esgidiau’r Cymro ac arwain y tîm.
Roedd cefnogwyr a chyn-chwaraewyr wedi eu cythruddo gan yr hyn oedd yn cael ei weld fel sylw cwbl amharchus.
Mae sylwadau Dutch Ray ers hynny wedi bod yr un mod anhygoel, ac mae wedi dod yn gwbl amlwg ei fod yn ŵr hunanol iawn.
Ymosodiadau
Roedd amheuaeth fawr ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai Chris Coleman gydweithio gyda Verheijen, ond er tegwch i Coleman roedd am roi cyfle ac roedd y synau’n rai addawol yn dilyn cyfarfod cyntaf y ddau.
Yna’r wythnos diwethaf fe ddechreuodd yr ymosodiadau sbeitlyd a bisâr yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar Twitter.
Y cyhuddiad cyntaf oedd ei fod wedi clywed gan newyddiadurwr mai ef ac Osian Roberts fyddai yng ngofal y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Costa Rica nos Fercher…ond nad oedd neb o’r Gymdeithas wedi trafferthu dweud wrtho.
Meddai hefyd bod Rheolwr Gweithredoedd y tîm, Adrian Davies, wedi cael ei ddiswyddo cyn mynd ymlaen mewn neges bellach i honni nad oedd Davies wedi cael gwahoddiad i’r gêm deyrnged.
Rŵan, dwn i ddim lle mae Verheijen wedi bod yn byw ers y mis a mwy diwethaf, ond mae wedi bod yn reit glir i bawb arall ers i Coleman gael ei benodi mai’r Iseldirwr ac Osian Roberts fyddai’n cymryd yr awenau ar gyfer y gêm yma. Yn ôl y Gymdeithas Bêl-droed, roedd Coleman wedi trafod hyn gyda Verheijen yn ystod eu cyfarfod hefyd.
O ran Adrian Davies, mae’n debyg mai cytundeb o un gêm i’r llall oedd ganddo dan ofal Gary Speed, ac nad oedd wedi’i gytundebu i’r Gymdeithas o gwbl. Mae’r Gymdeithas hefyd wedi dweud ei fod wedi derbyn gwahoddiad a thocynnau i’r gêm nos Fercher.
O’r diwedd, cyhoeddodd Verheijen nos Wener ei fod wedi ymddiswyddo gan ddweud ei fod wedi cael digon ar “gemau gwleidyddol a dinistriol” y Gymdeithas.
Amseru anffodus
Heb os roedd amseru’r cyhoeddiad yma’n anffodus, lai nag wythnos cyn y gêm arbennig i gofio cyfraniad Gary Speed i Gymru. Dim ond un casgliad sydd i hyn, sef ei fod unwaith eto am dynnu sylw ato’i hun ar achlysur lle dylai neb ond Gary Speed fod yn ganolbwynt meddyliau pawb.
Mae cwestiwn yn codi ynglŷn ag effaith hyn oll ar berthynas y garfan â’r tîm hyfforddi newydd. Mae’n anffodus bod nifer o’r chwaraewyr wedi mynegi eu barn ynglŷn â phenodiad y rheolwr newydd – ddylai chwaraewyr ddim bod ag unrhyw ddweud yn y mater o benodi rheolwyr newydd.
Er hynny, rhaid maddau iddynt a’i ddehongli fel naïfrwydd ieuenctid. Does dim ond gobeithio bod y chwaraewyr yn gallu gweld nad oes unrhyw fai ar Coleman yn hyn oll, a’u bod nhw barod i roi cyfle i’r rheolwr newydd.
Mae rôl Osian Roberts yn gwbl allweddol – mae’n siŵr ei fod yn adnabod y chwaraewyr yn well na neb, a dwi’n siŵr bod y chwaraewyr yn ei barchu’n fawr. Mae Roberts wedi ymddwyn yn gwbl broffesiynol dros y misoedd diwethaf, a bydd ei ddylanwad yn tyfu ymhellach wrth i’r tîm ifanc cyffrous yma ddatblygu. Er gwaethaf yr hyn roedd Verheijen yn ei gredu, Osian Roberts ydy’r ddolen gyswllt hollbwysig i sicrhau parhad yr hyn mae Gary Speed wedi dechrau.
Bywyd heb Verheijen
Mae ymadawiad Verheijen yn codi nifer o gwestiynau am y dyfodol, ac am yrfa ryngwladol un neu ddau o’n sêr. Er hynny, ar y cyfan dwi’n meddwl bod ei ymddiswyddiad yn beth da i ddyfodol tîm pêl-droed Cymru.
Mae’n amlwg bod gan y chwaraewyr feddwl mawr ohono, ac mae pawb yn dweud ei fod yn dda iawn ar ei waith ond roedd wastad yn mynd i fod yn sefyllfa anodd ar ôl i Coleman gael ei benodi gyda bod yr Iseldirwr wedi dweud yn glir ei fod eisiau’r swydd.
Os oedd ganddo broblem gyda’r Gymdeithas Bêl-droed yna mae’n drueni nad oedd gan Verheijen ddigon o barch tuag at Gary Speed i frathu ei dafod nes ar ôl y gêm deyrnged.
Wedi dweud hynny, dwi’n weddol sicr y byddai wedi achosi trafferth i’r rheolwr newydd rhyw ben, felly efallai ei bod yn well dechrau gyda llechen lân o’r cychwyn cyntaf.
Yn eironig, dwi’n meddwl mai sylwadau gan rywun ar Twitter sydd wedi crynhoi Veheijen orau wrth i rywun nodi fod yr hyfforddwr yn dawel iawn yn ystod 5 gêm gyntaf Speed wrth y llyw, gyda’r tîm yn cael canlyniadau siomedig, ond ei fod yn sydyn iawn wedi gwneud ei hun yn fwyfwy amlwg wrth i’r llanw droi tua diwedd yr haf. Dweud y cyfan?