Craig Bellamy
Craig Bellamy fydd capten tîm Cymru yn y gêm gyfeillgar yfory yn erbyn Costa Rica er cof am Gary Speed a gynhelir yng Nghaerdydd.

Daw’r cyhoeddiad ar ol i Aaron Ramsey gael anaf i’w bigwrn.

Roedd Bellamy wedi chwarae gyda Speed ar sawl achlysur pan oedd y ddau yn chwarae i Newcastle a Chymru.

Dywedodd ei fod yn ystyried ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ond mae Chris Coleman wedi bod yn trafod gyda Bellamy ynglŷn ag ymestyn ei yrfa rhyngwladol hyd at ddiwedd ymgyrch Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2014.

Cadarnhawyd Coleman fel olynydd i Gary Speed ym mis Ionawr ac mae wedi dweud nad oedd eisiau newid gormod ac am barhau gydag Aaron Ramsey fel Capten.

Anaf

Ond bydd Ramsey yn colli gêm gyntaf Cymru dan reolaeth Coleman oherwydd anaf i’w bigwrn a ddioddefodd yn ei gêm glwb yn erbyn Sunderland, lle gollodd Arsenal 2-0 oddi cartref ar 18 Chwefror.

Coleman fydd rheolwr Cymru ond Osian Roberts  fydd yn cymryd yr awenau nos yfory ar gyfer y gêm gyfeillgar.

Roedd Roberts a Raymond Verheijen am reoli’r tîm nos yfory ond fe ymddiswyddodd yr Iseldirwr yr wythnos ddiwethaf. Er hynny mae wedi cadarnhau y bydd yn y gêm ar ôl derbyn gwahoddiad gan deulu Speed.