Malky Mackay
Mae cyn gapten Lerpwl Alan Hansen yn darogan y bydd rheolwr Caerdydd Malky Mackay yn cael ei dargedu gan glybiau’r Uwch Gynghrair cyn hir.

Yn ei dymor cyntaf, mae Mackay wedi arwain yr Adar Gleision i rownd derfynol y Cwpan Carling.

Er i’r Gleision golli yn erbyn Lerpwl yn dilyn ciciau o’r smotyn, bydd rheolwr Caerdydd yn eithaf poblogaidd ymysg rhai o glybiau’r Uwch Gynghrair sy’n edrych am reolwr newydd, yn ôl Hansen.

‘‘Rwy’n siŵr os daw swydd, bydd Malky yn un o’r ymgeiswyr i’w llenwi,’’ meddai Hansen wrth y BBC.

‘‘Dydw i ddim yn dweud am un eiliad y bydd Mackay yn gadael Caerdydd oherwydd mae ganddo berthynas dda gyda’r cefnogwyr a’r clwb,’’ ychwanegodd Hansen.

Dywedodd Hansen, sy’n sylwebydd ar raglen ‘Match Of The Day’ BBC1, bod Caerdydd wedi bod yn ddoeth wrth sicrhau dyfodol Mackay gyda’r clwb yn ddiweddar.

‘Profi ei hun’

‘‘Fe brofodd ei hun yn Watford, a nawr gyda Chaerdydd, ei fod yn rheolwr o safon uchel,’’ meddai’r cyn chwaraewr rhynglwadol o’r Alban.

Meddai Hansen ei fod wedi edmygu perfformiad yr Adar Gleision yn erbyn ei hen glwb, wrth i Lerpwl sicrhau eu tlws cyntaf mewn chwe blynedd.

‘‘Yn bersonol, roeddwn i’n meddwl bod Caerdydd wedi rhoi un o’r perfformaidau gorau a fuodd yn Wembley erioed,’’ meddai.

‘‘Rwy’n credu eu bod wedi ennill llawer o edmygwyr am un rheswm syml – y ffordd y gwnaethon nhw ymladd,’’ dywedodd Hansen.